Friday 17 February 2012

Sioe Deithiol Primo


Mae’r llyfrgell yn dod atoch chi!
Galwch heibio i ofyn cwestiynau am Primo, neu sut i ddod o hyd i adnoddau, ar y dyddiadau canlynol (ychwanegir dyddiadau pellach maes o law).
  • Dydd Iau 28 Mehefin, 1pm – 2pm, Ystafell 017/018 Adran Astudiaethau Gwybodaeth, Campws Llanbadarn
  •  Dydd Iau 19 Ebrill, 1yp-2yp, Ystafell 017/018 Adran Astudiaethau Gwybodaeth, Campws Llanbadarn 
  • Dydd Iau 8 Mawrth, 2-4yp, cyntedd Penbryn 5 (Adran Seicoleg / Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes),Campws Penglais
  • Dydd Gwener 9 Mawrth, 10yb-1yp, cyntedd Penbryn 5 (Adran Seicoleg / Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes),Campws Penglais
  • Dydd Mawrth 13 Mawrth, 10yb-12yp, cyntedd Adran Astudiaethau Gwybodaeth, Campws Llanbadarn
  • Dydd Mercher 14 Mawrth, 10yb-1yp, cyntedd Penbryn 5 (Adran Seicoleg / Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes),Campws Penglais
  • Dydd Iau, Mawrth 15fed, 10.30yb-1.30yp, cyntedd Labordai William Davies (IBERS), Campws Gogerddan, Penrhyncoch



Rhai o’r pynciau y gallwn eu trafod:
  • Elfennau sylfaenol Primo – sut i chwilio a mireinio eich chwiliad.
  • Canfod erthyglau gyda Primo Central – lle mae  e, sut mae’n gweithio, pa fanteision mae’n eu cynnig.
  • Cymharu’r gwahanol ddewisiadau chwilio ar Primo, e.e. Prifysgol Aberystwyth vs Primo Central vs dewisiadau pwnc.
  • Dod o hyd i gronfeydd data unigol i’w chwilio, gan gynnwys rhestrau pwnc-benodol o gronfeydd data.
  • Chwilio mwy nag un cronfa ddata ar yr un pryd - A-Z o’r Cronfeydd Data a Setiau Cyflym.
  • Defnyddio adnoddau ar-lein oddi ar y campws.
  • Chwilio a phori am e-gyfnodolion.
  • Rheoli benthyciadau llyfrgell.
  • Arbed a threfnu cofnodion yn yr E-silff.
  • Rhoi rhybuddion ar waith / chwiliadau wedi’u harbed / dychwelyd at chwiliadau blaenorol.
  • Ychwanegu adolygiadau a thagiau at gofnodion yn Primo – sut a pham.

Primo
E-bost y Gwasnaethau Academaidd
Tudalennau Pwnc

No comments: