Crewyd ORCID (Open Researchers and Contributor ID) Inc., yn 2010 gyda’r nod o greu codau adnabod unigryw parhaol ar gyfer ymchwilwyr, y gellid eu defnyddio i greu system ryngwladol, rhygn-ddisgyblaethol, rhyngsefydliadol i adnabod ymchwilwyr ac i briodoli eu gwaith.
Mae’r fenter ddielw hon yn gweithio drwy roi dynodwr ORCID yr unigolyn ym metadata eu cynnyrch, sy’n ffurfio cysylltiad clir a pharhaol gyda’r unigolyn hwnnw. Mae’n rhad ac am ddim i gofrestru ar gyfer ORCID, ac erbyn diwedd 2013 roedd gan dros 460,000 o unigolion eu dynodwyr ORCID eu hunain.
Gall defnyddwyr briodoli cymaint, neu cyn lleied, o fanylion personol neu broffesiynol i’w cyfrif
ORCID, a gallant hefyd deilwra’u gosodiadau preifatrwydd i reoli pwy all weld y wybodaeth dan sylw.
Mae Prifysgolion a sefydliadau ledled y byd, o Boston i Hong Kong a Sweden, yn dechrau integreiddio ORCID i’w systemau, ac maent yn arbenig o ddefnyddiol mewn ardaloedd lle ceir crynhoad uchel o gyfenwau tebyg, megis yng Nghymru.
I gael gwybod rhagor am ORCID, neu i gofrestru i gael dynodwr unigol, ewch i wefan ORCID.
Mae’n bwysig nodi nad ORCID yw’r unig fenter sy’n ceisio dyrannu codau adnabod unigryw i
unigolion. Mae ResearcherID yn gynllun tebyg sydd ond yn gweitho ar Web of Science.
Ceir rhagor o wybodaeth am ResearcherID ar eu gwefan.
No comments:
Post a Comment