Cyhoeddwyd Adroddiad Finch ar gynyddu mynediad at gyhoeddiadau ymchwil, yn 2012. Roedd yr
adroddiad yn cynnwys rhestr o argymhellion ac yn nodi camau ar gyfer eu cyflawni. Ym mis Hydref
2013, cyhoeddodd y Gweithgor ei gasgliadau ar y sefyllfa o safbwynt cynnydd.
Mae’r arolwg yn dal at yr argymhellion a wnaed yn yr Adroddiad Finch gwreiddiol, sy’n nodi mai
Mynediad Agored Aur, wedi’i ariannu’n bennaf gan daliadau prosesu neu gyhoeddi erthyglau (APC)
fydd y ffurf orau posil i ddarparu Mynediad Agored yn y pen draw, er nad oeddent yn ‘argymell
newid cyflym'.
Yng ngoleuni Adroddiad Finch, cyhoeddodd Cynghorau Ymchwil y DU bolisïau newydd ac mae
prifysgolion yn gweithredu’n unol â hwy. Nodwyd, fodd bynnag, ei bod yn ymddangos bod
gweithredoedd prifysgolion yn bodloni’r gofynion yn unig yn hytrach na mynd ymhellach. Mae
prifysgolion wedi bod yn awyddus i barhau i fuddsoddi mewn Mynediad Agored Gwyrdd yn ogystal â Mynediad Agored Aur, sef y llwybr a argymhellir.
Mae’r arolwg yn awyddus i nodi bod Adroddiad Finch a’r polisïau a ddeilliodd ohono wedi profi i fod yn gatalydd ar gyfer gweithgarwch nid yn unig yn y DU, ond yn Rhyngwladol.
Mae’r arolwg yn derbyn bod angen gwneud rhagor o waith mewn meysydd megis y gallu i
ryngweithredu a rhannu data, ac mae’n pwysleisio, er bod yna fomentwm tuag at Fynediad Agored,
dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y symudiad hwn yn parhau.
Mae’r arolwg hefyd yn cynnwys rhestr o 14 argymhelliad i helpu i sicrhau bod mwy o bobl yn
mabwysiadu Mynediad Agored. Mae’r argymhellion hyn yn cynnwys y posibilrwydd o gynnig arian
iro i ddarparu mynediad trwyddedig ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig a sefydliadau trydydd sector,
a mwy o gydlynu o safbwynt cyfnodau embargo.
Gallwch ddarllen yr holl argymhellion yn ogystal â’r dadansoddiadau yn yr Adroddiad ar Gynnydd.
Gallwch hefyd ddod o hyd i destun llawn yr Adroddiad Finch gwreiddiol a’r Crynodeb Gweithredol
ar-lein.
Neil Waghorn
Steve Smith
No comments:
Post a Comment