hawlfraint ar ddeunydd mewn modd llai cyfyngol na’r hawlfraint 'Cedwir Pob Hawl'
traddodiadol. Mae’r trwyddedau hyn yn ‘cynnig ffordd syml, safonedig o roi caniatâd i’r
cyhoedd rannu a defnyddio eich gwaith creadigol — o dan amodau o’ch dewis’.
Mae Trwyddedau Eiddo Creadigol Cyffredin yn cael eu defnyddio’n helaeth o amgylch y byd.
Gellir dadlau mai’r enghreifftiau mwyaf adnabyddus yw safle rhannu ffotograffau, Flickr, a’r
gwyddoniadur ar-lein, Wikipedia. Mae cwmnïau a sefydliadau eraill hefyd wedi dewis
darparu rhywfaint o’u cynnwys ar sail llai cyfyngedig na’r hawlfreintiau traddodiadol. Un
enghraifft yw GlaxoSmithKline, a ildiodd pob hawlfraint ar ei setiau data malaria, sy’n
cynnwys dros 13,500 o gyfansoddion sy’n weithredol yn erbyn malaria.
Mae gwefan Eiddo Creadigol Cyhoeddus (Creative Commons) yn disgrifio’r gwahanol fathau
a chyfuniadau o drwyddedau isod:
Attribution
CC BY
Mae’r drwydded hon yn gadael i eraill ddosbarthu, ailgymysgu, gwneud mân addasiadau, ac
adeiladu ar eich gwaith, hyd yn oed at ddibenion masnachol, cyn belled â’u bod yn eich
cydnabod am y deunydd gwreiddiol. Dyma fwyaf hyblyg o’r trwyddedau a gynigir.
Argymhellir y drwydded hon i sicrhau’r lledaeniad ehangaf a’r defnydd helaethaf o
ddeunyddiau trwyddedig.
Attribution-ShareAlike
CC BY-SA
Mae’r drwydded hon yn caniatáu i eraill ailgymysgu, gwneud mân newidiadau, ac adeiladu
ar eich gwaith, hyd yn oed at ddibenion masnachol, cyn belled â’u bod yn eich cydnabod ac
yn trwyddedu eu creadigaethau newydd o dan yr yn telerau’n union. Caiff y drwydded hon
ei chymharu’n aml â thrwyddedau meddalwedd ffynhonnell agored rhad ac am ddim
“copyleft”. Bydd pob gwaith newydd a seilir ar eich gwaith chi yn cario’r un drwydded, felly
bydd unrhyw ddeunydd sy’n deillio ohono hefyd yn caniatáu defnydd masnachol. Dyma’r
drwydded a ddefnyddir gan Wikipedia, ac fe’i hargymhellir ar gyfer deunyddiau a fyddai’n
elwa o ymgorffori deunydd o Wikipedia a phrosiectau sy’n defnyddio trwyddedau cyffelyb.
Attribution-NoDerivs
CC BY-ND
Mae’r drwydded hon yn caniatáu ailddosbarthu deunydd, yn fasnachol ac anfasnachol, cyn
belled â bod y deunydd hwnnw’n cael ei drosglwyddo’n gyfan, heb ei newid mewn unrhyw
fodd, gyda chydnabyddiaeth i chi.
Attribution-NonCommercial
CC BY-NC
Mae’r drwydded hon yn caniatau i eraill ailgymysgu, gwneud mân newidiadau, ac adeiladu
ar eich gwaith yn anfasnachol, ac er bod yn rhaid i’w gweithiau newydd hefyd eich cydnabod
chi a bod o natur anfasnachol, nid yw’n ofynnol iddynt drwyddedu eu gwaith deilliadol o dan
yr un telerau.
Attribution-NonCommercial-ShareAlike
CC BY-NC-SA
Mae’r drwydded hon yn caniatau i eraill ailgymysgu, gwneud mân newidiadau, ac adeiladu
ar eich gwaith yn anfasnachol, cyn belled â’u bod yn eich cydnabod chi ac yn trwyddedu eu
creadigaethau newydd o dan yr un telerau yn union.
Attribution-NonCommercial-NoDerivs
CC BY-NC-ND
Hon yw’r drwydded fwyaf caeth o’r chwe phrif drwydded. Mae’n caniatáu i eraill lawr
lwytho eich gweithiau a’u rhannu ag eraill cyn belled â’u bod yn eich cydnabod chi, ond nid
oes ganddynt hawl i’w newid mewn unrhyw fodd na’u defnyddio’n fasnachol.
Ceir gwybodaeth lawn am Drwyddedau Eiddo Creadigol Cyffredin (Creative Commons) ar-lein.
Neil Waghorn
Steve Smith
No comments:
Post a Comment