Wythnos Mynediad Agored 2013
WYTHNOS MYNEDIAD AGORED – 21/27 Hydref 2013
Mewn cysylltiad ag Wythnos Mynediad Agored, hoffem dynnu
eich sylw at CADAIR, ffenest Mynediad Agored Prifysgol Aberystwyth i waith
ymchwil staff a myfyrwyr y Brifysgol, sy’n darparu mynediad at bapurau wedi’u
hadolygu gan gymheiriaid nad oes angen tanysgrifio i’w defnyddio.
Heddiw, caiff erthyglau eu hychwanegu at Cadair drwy
system rheoli ymchwil Prifysgol Aberystwyth, PURE, sy’n anfon erthyglau sy’n
addas ar gyfer Mynediad Agored i Cadair ar ôl i unrhyw gyfnodau embargo ddod i
ben. O dudalen cychwyn CADAIR, gellir chwilio drwy bapurau aelodau o staff drwy
ddefnyddio enwau awduron neu allweddeiriau, neu trwy bori yn ôl Adran/Cymuned
neu yn ôl casgliadau pwnc mwy penodol.
Yr eithriad mawr i hyn yw traethodau ymchwil Prifysgol
Aberystwyth, lle caiff y cofnodion a’r ffeiliau cysylltiedig eu llwytho’n
uniongyrchol ar CADAIR. Cesglir cofnodion traethodau ymchwil ynghyd yng
nghasgliad Cyhoeddiadau Uwchraddedig CADAIR, ond maent hefyd ar gael yn y
casgliadau adrannol perthnasol.
Mae’r rhan fwyaf o’r prif gyhoeddwyr academaidd (e.e.
Gwasg Prifysgol Caergrawnt, Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wiley, Elsevier, Sage)
erbyn hyn yn caniatáu naill ai cyhoeddi mynediad agored aur neu adneuo papurau
mynediad agored gwyrdd sydd yn eu cyfnodolion. Ariennir papurau mynediad agored
aur drwy’r “Ffioedd Prosesu Erthyglau” (FfPE) a delir gan awduron cyn iddynt
gyhoeddi eu gwaith, sy’n galluogi pobl i ddarllen y papur ar wefan y cyhoeddwr
heb orfod talu ffioedd tanysgrifio. Mae’r prif gyfnodolion felly yn aml yn
cynnwys papurau mynediad agored (agored i bawb) a phapurau safonol sy’n agored
i unigolion neu sefydliadau sydd wedi tanysgrifio yn unig. Mae Prifysgol
Aberystwyth wedi cael rhywfaint o gyllid FfPE ar gyfer cyhoeddi mynediad agored
aur gan y Cynghorau Cyllido Addysg Uwch. Os hoffech wybod rhagor am sut i
fanteisio ar y cyllid hwn i’ch helpu i gyhoeddi’ch papurau ymchwil ar ffurf
“mynediad agored aur”, cysylltwch â mailto:openaccess@aber.ac.uk
Mae rhai cyhoeddwyr yn arbenigo’n llwyr mewn cyfnodolion
mynediad agored aur sydd ddim yn codi unrhyw ffioedd tanysgrifio. Mae awduron o
Brifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi gwaith gyda’r cyhoeddwyr mynediad agored
“aur” a adolygir gan gymheiriaid canlynol:
Public Library of Science - saith cyhoeddiad o bwys ym
meysydd bioleg a meddyginiaeth
Hindawi - cyhoeddiadau mynediad agored ym mhob
disgyblaeth academaidd
J-STAGE Humanities – cyfnodolion yn y celfyddydau a’r
gwyddorau cymdeithasol o Japan
Ubiquity Press - cyhoeddwr aur arbenigol yn y celfyddydau
a’r dyniaethau
Biomed Central - ystod eang o gyfnodolion ym maes
meddyginiaeth a geneteg
Frontiers - y biowyddorau i gyd, gan gynnwys niwroleg
Gellir gosod papurau mynediad agored “gwyrdd” allanol ar
gadwrfeydd prifysgolion a chadwrfeydd sefydliadau eraill heb orfod talu unrhyw
ffioedd prosesu erthyglau. Yn aml, dim ond fersiynau rhagargraffedig neu ôl
argraffedig (wedi’u derbyn gan yr awdur) o erthyglau y gellir eu hadneuo, ac fe
all cyhoeddwyr osod embargo o rhwng 6-24 mis ar adneuon mewn cadwrfeydd
mynediad agored gwyrdd, i ddiogelu eu hincwm.
Erbyn hyn mae gan y rhan fwyaf o brifysgolion eu
cadwrfeydd lleol eu hunain ar gyfer papurau staff a thraethodau ymchwil, megis
cadwrfa CADAIR Prifysgol Aberystwyth, ond gellir hefyd chwilio drwy grwpiau
mawr o gadwrfeydd mynediad agored gwyrdd yn:
Mae’r cadwrfeydd ar gyfer pynciau arbenigol yn cynnwys:
Arts & Humanities Commons - http://network.bepress.com/arts-and-humanities/
Latin-American Open Archives Portal -
http://lanic.utexas.edu/project/laoap/
Social Science Open Access Repository:
http://www.ssoar.info/
PhilPapers: http://philpapers.org/
Pandektis - Greek History & Civilisation -
http://pandektis.ekt.gr/pandektis/
Ceir rhestrau o gyfnodolion mynediad agored o bob math,
gwyrdd ac aur fel ei gilydd, yn: Directory of Open Access Journals
Am restrau o gadwrfeydd mynediad agored gwyrdd gweler y
wefan OpenDOAR.
I weld a fyddai unrhyw gyfnodolyn penodol yn caniatáu i
chi adneuo’ch papurau mewn cadwrfa mynediad agored gwyrdd yn unol â gofynion
mynediad agored eich cyllidwyr, cysylltwch â’r wefan Sherpa Romeo. I gael
gwybod rhagor am ofynion penodol y cyrff cyllido gweler Sherpa Juliet.
Os oes angen rhagor o fanylion arnoch, cysylltwch â’r Tîm
Mynediad Agored yn: openaccess@aber.ac.uk .
Am ymholiadau ynglŷn ag adneuo traethodau ymchwil PA,
anfonwch e-bost at: is@aber.ac.uk .
Steve Smith - tns@aber.ac.uk
Amy Staniforth - mws@aber.ac.uk
Gwasanaethau Gwybodaeth
No comments:
Post a Comment