(Image: European Commission) |
Yn ôl y canllaw, 'ni ddylid talu eto am unrhyw wybodaeth y talwyd amdani eisoes gan y pwrs cyhoeddus bob tro y caiff y wybodaeth ei chyrchu neu’i defnyddio, ac y dylai fod o fudd llawn i ddinasyddion a chwmnïau Ewropeaidd. Golyga hyn sicrhau bod gwybodaeth wyddonol a gyllidwyd gan arian cyhoeddus ar gael ar-lein, heb unrhyw gostau ychwanegol, i ddinasyddion, diwydiannau arloesol ac ymchwilwyr Ewropeaidd, wrth sicrhau cadwraeth tymor hir.'
Mae’r ddogfen yn disgrifio ac yn rhoi manylion am y fersiynau Gwyrdd ac Aur o ran Mynediad Agored, ond nid yw’n nodi y dylai’r data fod ar ffurf benodol o Fynediad Agored, dim ond ei fod yn agored.
Mae’r canllaw’n gosod y sail wleidyddol a chyfreithiol ar gyfer y rheolau am Fynediad Agored yn Horizon 2020, gan roi manylion am bolisïau UE amrywiol sy’n cyfateb i Horizon 2020, gan gynnwys Agenda Digidol Ewrop a pholisi’r Undeb Arloesi.
Mae’r ddogfen hefyd yn cynnwys canllaw ar y gorchymyn cyfreithiol y dylai gwaith a gyllidir gan brosiect Horizon 2020 fod â mynediad agored. Mae’n disgrifio’n glir y camau angenrheidiol i fodloni’r gofynion hyn. Mae’r canllaw hefyd yn cynnwys gwybodaeth am beilot data ymchwil agored a’r prosiectau dethol. Mae’r peilot yn rhedeg o 2014-5 ac mae’n ceisio 'gwella a chynyddu mynediad i’r data ymchwil a gynhyrchir gan y prosiectau a faint y caiff y data ymchwil hwn ei ailddefnyddio.' Bydd darganfyddiadau’r peilot yn helpu i ffurfio polisi data ymchwil y dyfodol. Yn ogystal â rhoi gwybodaeth am raddfa a chwmpas y peilot, mae’r canllaw hefyd yn rhoi dewisiadau i’r rhai sy’n dymuno tynnu’n ôl o’r peilot.
Mae’r canllawiau llawn ar gael ar-lein ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.
Neil Waghorn
Steve Smith
No comments:
Post a Comment