Mae
Prifysgol Aberystwyth yn awr yn darparu mynediad i Archif Churchill,
llyfrgell ddigidol ar hanes rhyngwladol modern sy’n cynnwys mwy na
800,000
tudalen o ddogfennau gwreiddiol yn ymwneud â Winston Churchill. Mae’r
rhain yn amrywio o eitemau o ohebiaeth bersonol i lythyron swyddogol yn
cofnodi’r cysylltiad rhyngddo ag arweinwyr rhyngwladol y dydd
Mae’r archif yn bwrw golwg ar fywyd personol a phrofesiynnol Winston Churchill o’i ddyddiau ysgol i’w flynyddoedd olaf fel gwladweinydd yn ystod y Rhyfel Oer.
Mae’r
archif hon yn adnodd arbennig a fydd yn hynod ddefnyddiol ar gyfer
ymchwilwyr a myfyrwyr Hanes, Llenyddiaeth a Gwleidyddiaeth. Mae archif
arlein hon, sydd wedi ei lleoli yng Ngholeg Churchill, Caergrawnt, yn
awr ar gael yn dilyn proses ddigideiddio a gymrodd dwy flynedd i’w
chwblhau.

