Ni fydd newid i’r rhestrau darllen Aspire fel y maent yn ymddangos ym modiwlau Blackboard ac eithrio Dysgwyr o Bell IMLA a fydd yn gweld y newidiadau a ddisgrifir yma.
Gall staff sy’n mewngofnodi i olygu rhestrau yn Aspire newid rhestr yn ôl i’r cynllun blaenorol trwy glicio ar Allan Beta am gyfnod cyfyngedig.
- Mae lluniau o gloriau’r llyfrau wedi’u cynnwys yn yr eitemau ar y rhestr
- Cliciwch ar deitl i ehangu’r wybodaeth am eitem ar y rhestr
- Gallwch weld eich rhestr / adrannau o’ch rhestr mewn arddull ddyfynnu o’ch dewis
- Gallwch glicio ar Golwg: I gyd i hidlo eitemau ar y rhestr yn ôl darllen Hanfodol neu ddarllen Pellach, bwriadau darllen a nodiadau astudio
- Defnyddiwch y llwybr byr glôb i doglo rhwng y Gymraeg a'r Saesneg
- Os ydych chi’n defnyddio’r botwm Golwg: I gyd i hidlo Ffynonellau Corfforol neu Ar-lein: gallai’r wybodaeth a welwch ddod i’r casgliad anghywir nad yw rhywbeth ar gael mewn fformat penodol pan fo ar gael (gan ddibynnu ar sut mae eitemau wedi cael eu hychwanegu i Aspire, neu sut maent wedi’u cyd-gatalogio yn Primo).
- I ddod o hyd i ddolen uniongyrchol i eitem, cliciwch ar y ddewislen gweithredu 3-dot i’r dde o’r eitem a chliciwch ar Rhannu eitem
- Nid yw'r botwm Cyhoeddi bellach yn ymddangos yn y ddewislen Golygu; cliciwch Golygu > Golygu rhestr (clasurol) i ddod o hyd i'r botwm Cyhoeddi ar ochr dde'r dudalene
- Mae’r botwm Golygu yng nghanol neu ochr dde’r dudalen yn hytrach na’r ochr chwith
- Mae botwm y dangosfwrdd bellach yn y ddewislen Gweld ac Allforio o dan yr enw Dadansoddiadau
No comments:
Post a Comment