Eleni bydd cyfres o erthyglau yn ymddangos ar ein gwefan yn cyflwyno aelodau o dîm y Gwasanaethau Academaidd. Y tro hwn, mae'n y llyfrgellydd Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig; Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear; a Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.
Steve Smith
Arweinydd Cyfadran dros Wyddoniaeth a Chydlynydd Cymorth Ymchwil Llyfrgell
Fy enw yw Steve Smith. Ymunais â Gwasanaethau Gwybodaeth y Brifysgol ym mis Ebrill 2008 yn dilyn uniad y brifysgol â’r Sefydliad Ymchwil Glaswelltir ac Amgylcheddol (IGER), ar ôl gweithio fel Llyfrgellydd IGER ar gampws Gogerddan ers mis Awst 2000. Erbyn hyn mae gennyf gyfrifoldeb cyffredinol dros gydlynu cymorth GG i’r gwyddorau o fewn Grŵp Gwasanaethau Academaidd GG, gan gysylltu’n uniongyrchol ag IBERS, IGES a Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Yn ogystal, rwy’n cydlynu cefnogaeth i uwchraddedigion a staff ymchwil ar draws holl adrannau’r Brifysgol. Yn dilyn cyfnod fel Llyfrgellydd Safle yn Llyfrgell Thomas Parry ar Gampws Llanbadarn o fis Awst 2010 ymlaen, byddaf yn gweithio yn Llyfrgell Hugh Owen o fis Awst 2012 ymlaen.