Friday, 6 June 2014

Yn dod yn fuan! System rhestrau darllen newydd PA sy’n cael ei chynnal gan Talis Aspire

Sustem rhestrau darllen ar-lein yw Talis Aspire sydd wedi'i dylunio i lunio rhestrau o adnoddau sydd wedi'u cyfeirnodi'n gywir, a’u cysylltu â rhestrau adnoddau sydd ar gael mewn modiwlau ar Blackboard a lleoliadau arlein eraill.
Mynnwch gipolwg ar y fideo fer hon.
Mae cynlluniau ar y gweill i roi'r sustem ar waith; dyma rai agweddau allweddol ar yr amserlen:
  • Rhoi'r sustem ar waith yn ystod mis Gorffennaf
  • Cyflunio a phrofi'r sustem yn ystod Awst a Medi
  • Hyfforddi academyddion a staff gweinyddol yr adrannau ym mis Hydref
  • Rhoddir y rhestrau darllen cyntaf ym misoedd Hydref a Thachwedd ar gyfer modiwlau ail Semester 2014/15 er mwyn inni gael digon o amser i brynu unrhyw eitemau nad ydynt ar gael yn y llyfrgelloedd nac yn electronig
  • Bydd ARMS ar gael i'w olygu tan canol mis Tachwedd
  • Rhoddir gwybod i ddefnyddwyr presennol ARMS na fydd modd iddynt drosglwyddo eu rhestrau i Aspire, ond fe fyddant yn cael blaenoriaeth ar gyfer hyfforddiant a chymorth i ddefnyddio Aspire
Bydd cyhoeddiadau rheolaidd i olrhain datblygiad y prosiect, a bydd newidiadau i weithdrefnau yn cael eu hychwanegu at we ddalen y Rhestr Ddarllen bresennol.
Edrychwn ymlaen at ddangos y sustem newydd i chi cyn gynted ag y bo modd. Croeso ichi gysylltu â’r llyfrgellwyr pwnc os oes gennych unrhyw ymholiadau: acastaff@aber.ac.uk


No comments: