Thursday 8 September 2011

Ffynonellau ar gyfer Cyrsiau: Papurau Seneddol Tŷ’r Cyffredin


Os ydych yn astudio Gwleidyddiaeth, y Gyfraith, Hanes neu ond â diddordeb ym mhrosesau mewnol Tŷ’r Cyffredin, fe gewch wledd o wybodaeth ar gyfer eich ymchwil ar gronfa ddata Papurau Seneddol Tŷ’r Cyffredin (House of Commons Parliamentary Papers – HCPP)

Mae HCPP, sy’n rhad ac am ddim i staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, yn cynnig cronfa ddata gynhwysfawr o Bapurau Seneddol, sy’n deillio o 1688 i fyny hyd at 2004. Fe gewch ddogfennau sydd wedi llunio’r modd y llywodraethir Prydain, gan gynnwys mesurau a drafodwyd yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi cyn iddynt ddod yn Ddeddfau Seneddol.



Mae’r Gronfa Ddata yn cynnwys tri math o Bapurau Seneddol:
  • Mesurau - drafftiau o ddeddfwriaethau sy’n cael eu hadolygu wrth fynd drwy amrywiol gamau seneddol. Os yw’r Mesur yn pasio’r camau hyn, bydd yn dod yn Ddeddf Seneddol
  • Papurau’r Tŷ – dogfennau sy’n deillio o waith Tŷ’r Cyffredin a’i Bwyllgorau
  • Papurau Gorchymyn – Papurau’r Llywodraeth (oddi wrth Weinidogion) sy’n cyflwyno gwybodaeth neu benderfyniadau y mae’r Llywodraeth am dynnu sylw’r Senedd atynt. Cânt eu cyflwyno “drwy Orchymyn ei Mawrhydi”
Gadewch i ni edrych ar enghraifft. Dyweder ein bod yn ymchwilio Deddf Etholfraint Gyfartal 1928 – mesur hanesyddol a roddodd hawliau pleidleisio cydradd i ddynion menywod. Gan y gwyddom beth yw enw’r ddeddf, gallwn ei deipio yn y blwch Paper Title. Os ydym ond am weld y mesur a basiwyd, rydym ond yn dewis Bills o’r ddewislen Limit to.

Mae’r chwiliad yn dychwelyd y canlyniad yr oeddem yn ei geisio a gallwn glicio ar y botwm Full text i ddarllen y mesur yn llawn.

Mae’r testun llawn yn cael ei arddangos a gallwn lywio drwyddo trwy ddefnyddio cysylltau rhifau tudalen.

Rhai Awgrymiadau:
  • Gan fod y casgliad mor gynhwysfawr, bydd yn arbed amser os wnewch gywreinio eich chwiliad trwy ddefnyddio’r ddewislen Limit to cymaint ag sy’n bosib
  • Gallwch hefyd bennu blynyddoedd ar gyfer eich canlyniadau. Mae hyn yn hynod ddefnyddiol os ydych yn chwilio am bwnc eithaf eang megis trethiant.
  • Gellir allforio cyfeiriadau yn uniongyrchol i EndNote a chymwysiadau eraill trwy glicio Download ar y dudalen Full Record
  • Gallwch hefyd arbed tudalennau i’w hastudio’n ddiweddarach trwy glicio ar Save in my Archive. Bydd angen ichi greu cyfrif i wneud hyn.
Os ydych yn gweithio oddi ar y campws, cofiwch fewngofnodi i Primo a defnyddio’r cyswllt login via your home organisation ar safle HCPP er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich dilysu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, neu am drefnu sesiwn hyfforddi neu sesiwn loywi ar adnoddau arlein Prifysgol Aberystwyth, os gwelwch yn dda cysylltwch â’r

Gwasanaethau Academaidd
acastaff@aber.ac.uk
01970621896

No comments: