Thursday, 28 May 2009

E-lyfrau yn y Gwasanaethau Gwybodaeth


 
Rydym yn byw mewn oes lle ystyrir bod amser yn beth prin. Rydym ni oll angen gwybodaeth; yn ddelfrydol, hoffem ei chael ar yr union adeg y mae ei hangen arnom. Os yw hi’n 3 o’r gloch y bore a chithau’n ceisio gorffen darn o waith ymchwil, ond rydych eisiau gwirio dyfyniad neu gyfeiriad, nid ydych eisiau aros nes bod y llyfrgell yn agor er mwyn gwneud hynny.

Thursday, 7 May 2009

Datganoli a'r Cyrff Deddfwriaethol Newydd yn y DU


 
Mae'r llyfryddiaeth ar Ddatganoli a’r Cyrff Deddfwriaethol Newydd yn y DU yn arf defnyddiol i ymchwilwyr ac eraill sydd â diddordeb ym mhroses ddatganoli a sut mae’r cyrff deddfwriaethol newydd yn gweithio.

Wednesday, 11 March 2009

Cadw’n gyfoes gyda’ch pwnc

On’d yw hi’n braf pan fydd rhywbeth rydych am ei gael yn cael ei roi i chi, fel nad oes angen i chi fynd i chwilio amdano eich hun?

Os trosglwyddwn ni’r syniad yna i’r byd ymchwil, mae’n bosibl ymweld â phob gwefan unigol ar draws ystod eang o gylchgronau - a phori drwy’r copïau print yn y llyfrgell - dim ond er mwyn ceisio cadw’n gyfoes yn eich maes. Ond byddai hynny’n dasg undonog a fyddai’n llenwi’ch amser chi i gyd pe byddech chi am fonitro nifer o deitlau gwahanol.

Tuesday, 3 March 2009

Cyfle i ennill Tocyn Llyfr £40

Mae'n adeg llenwi mewn holiadur Gwasanaethau Gwybodaeth unwaith eto. Llynedd, fe ddywedoch wrthym eich bod eisiau cyfrifiaduron newydd yn yr ystafelloedd cyfrifiadurol, ac fe wnaethom hynny. Beth ydych am i ni wneud eleni?
Arolwg Defnyddwyr y Gwasanaethau Gwybodaeth
A ydym yn plesio?
Buaswn yn gwerthfawrogi eich barn os gwelwch yn dda
Dyddiad cau - Mawrth 31
http://www.inf.aber.ac.uk/cymraeg/user-survey.asp
Gwobr raffl - Enill tocyn llyfyr £40

Monday, 2 March 2009

Diwrnod y Llyfr 2009 – Beth sydd tu fewn dy glorie di…???

I ddathlu Diwrnod y Llyfr rydym yn gwahodd myfyrwyr a staff i alw heibio Llyfrgell Hugh Owen rhwng 10am a 3pm ar ddydd Iau, Mawrth 5ed i:

• Chwarae gyda’r Darllenyddion e-lyfr diweddaraf

• Ffeirio/Trwco llyfrau – Dewch â llyfr – ewch â llyfr

Tuesday, 24 February 2009

Adnoddau ar-lein newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth: Casgliad Burney a’r Casgliad Cyfnodolion Prydeinig I a II

Daeth Casgliad Burney i feddiant y Llyfrgell Brydeinig flwyddyn wedi marwolaeth y Parch Charles Burney (1757-1817), ysgolhaig clasurol ac ysgolfeistr. Digideiddiwyd y casgliad yn 2007 o ganlyniad i gydweithrediad rhwng y Llyfrgell Brydeinig, Gale/Cengage a’r Sefydliad Gwyddonol Cenedlaethol. Mae’r casgliad ar-lein yn cynnwys 1,270 o deitlau, yn bennaf papurau seneddol, papurau newydd Llundeinig, cyfnodolion, papurau rhanbarthol Lloegr a phapurau newydd o’r Iwerddon, yr Alban a’r Unol Daleithiau.