Thursday 7 May 2009

Datganoli a'r Cyrff Deddfwriaethol Newydd yn y DU


 
Mae'r llyfryddiaeth ar Ddatganoli a’r Cyrff Deddfwriaethol Newydd yn y DU yn arf defnyddiol i ymchwilwyr ac eraill sydd â diddordeb ym mhroses ddatganoli a sut mae’r cyrff deddfwriaethol newydd yn gweithio.



Ymdrin â ffynonellau eilaidd / anuniongyrchol y mae’r llyfryddiaeth yn bennaf, gan gynnwys erthyglau, llyfrau ac adroddiadau sy’n berthnasol i broses ddatganoli yn y Deyrnas Gyfunol ac i waith y gwahanol gyrff deddfwriaethol / weithredol a sefydlwyd yn y Deyrnas Gyfunol, sef Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon ac Awdurdod Llundain Fawr.

Mae’r llyfryddiaeth yn dechrau gyda chyhoeddiadau o 1997 ac mae’n cael ei diweddaru bob chwarter. Cyhoeddir rhestr o’r deunydd a gyhoeddwyd y flwyddyn gynt yn y Cambrian Law Review.

No comments: