Daeth Casgliad Burney i feddiant y Llyfrgell Brydeinig flwyddyn wedi marwolaeth y Parch Charles Burney (1757-1817), ysgolhaig clasurol ac ysgolfeistr. Digideiddiwyd y casgliad yn 2007 o ganlyniad i gydweithrediad rhwng y Llyfrgell Brydeinig, Gale/Cengage a’r Sefydliad Gwyddonol Cenedlaethol. Mae’r casgliad ar-lein yn cynnwys 1,270 o deitlau, yn bennaf papurau seneddol, papurau newydd Llundeinig, cyfnodolion, papurau rhanbarthol Lloegr a phapurau newydd o’r Iwerddon, yr Alban a’r Unol Daleithiau.
Mae Casgliad Cyfnodolion Prydeinig I a II yn cynnwys yn bennaf gasgliadau microffilm UMI wedi eu digideiddio - Cyfnodolion Prydeinig Cynnar, cyfnodolion Llenyddol Saesneg a chyfnodolion Prydeinig yn y Celfyddydau Creadigol ac yn cynnwys bron 500 o deitlau o’r 1680au i’r 1930au. Mae William Cobbett, Daniel Defoe, George Eliot a Samuel Johnson ymhlith y golygyddion a’r tanysgrifwyr a cheir fersiynau cyfnodolion o straeon megis North and South gan Elizabeth Gaskell yn eu cyd-destun gwreiddiol. Mae’r meysydd pwnc yn cynnwys llenyddiaeth, athroniaeth, hanes, gwyddoniaeth, y celfyddydau cain, gwyddorau cymdeithasol, cerddoriaeth, drama, archeoleg a phensaernïaeth.
Mae’r adnoddau hyn ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer mynediad ar-lein gan Gynghorau Ymchwil Addysg Uwch ac Addysg Bellach y DU tan fis Rhagfyr 2013 trwy gyfrwng Casgliadau JISC. Gweler ABiéC yr Adnoddau Gwybodaeth Electronig a’r eLyfrgell.
No comments:
Post a Comment