Tuesday, 4 June 2013

Cyfarfod Ymchwil ar y cyd rhwng y Sefydliad Astudiaethau Cyfreithiol Uwch a Phrifysgol Bangor


Adborth gan fyfyrwyr.

“Mae’r myfyrwyr yn dal i sôn amdano ac yn dweud cymaint wnaethon nhw fwynhau eu hymweliad a’r croeso gawson nhw. Unwaith eto, diolch [i Lillian Stevenson Rheolwr Gwasanaethau Academaidd/llyfrgellydd y Gyfraith] am drefnu’r digwyddiad.”

Thursday, 16 May 2013

Treial Adnodd newydd – Adroddiadau Cyfraith ICLR


Mae gan y Llyfrgell yn awr fynediad i Adroddiadau Cyfraith y Cyngor Corfforedig Adrodd Cyfreithiol (ICLR) am flwyddyn o brawf. Mae'r adnodd unigryw hwn yn dal 78,000 o adroddiadau testun llawn a thros 86,000 o gardiau mynegai ac yn cynnwys yr holl adroddiadau achos a gyhoeddwyd gan  ICLR ers 1865. Yn ôl y ICLR "Adroddiadau Cyfraith yw'r gyfres swyddogol sy’n cael eu dyfynnu yn yr Uchel Lys a'r Llys Apêl, a’r awdurdod sy’n cael ei ffafrio gan farnwyr". Am ragor o wybodaeth gweler http://www.iclr.co.uk/products/product-catalogue/iclr-online

Gallwch cael gafael ar yr adroddiadau ar y campws drwy fynd i http://www.iclr.co.uk/
  yna cliciwch ar y botwm coch 'Go to ICLR Online' ar frig y gornel dde. Ceir mynediad oddi ar y campws drwy VPN

Mae’r Llyfrgell am eich adborth ar yr adnodd hwn. Os gwelwch yn dda e-bostiwch eich sylwadau at  Lillian Stevenson lis@aber.ac.uk

Tuesday, 7 May 2013

Ffynonellau ar gyfer Crysiau: Drama Online



Yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer myfyrwyr Drama a Saesneg, mae Drama Online yn gasgliad o ddramâu sy'n cynnwys gwybodaeth cyd-destunol a nifer o offer ar-lein unigryw a all eich helpu gydag astudiaeth fanwl.

Ochr yn ochr â chasgliad sylweddol o weithiau dramatig, mae'r wefan yn cynnig arweiniad arbenigol ar ffurf nodiadau ysgolheigaidd, gwybodaeth cyd-destunol, a throsolwg o'r prif gysyniadau a’r materion sy’n cael eu harchwilio. Mae'r ystod eang o destunau dramatig ar y safle yn cael eu darparu gan Bloomsbury mewn partneriaeth â Methuen Drama, Faber and Faber, ac Arden Shakespeare.






Yn ogystal mae gan rhai o’r dramâu ddelweddau perthnasol a lluniau cynhyrchu llonydd, ac mae pob drama yn chwiliadwy er mwyn hwyluso’r broses o we-lywio a chael gafael ar ddarnau penodol.  Mae pob testun hefyd yn cynnwys dyfyniad sy’n hawdd ei allforio, ac wedi ei gyflwyno mewn fformat clir a hygyrch sy'n gwneud darllen yn bleser.
Mae'r tanysgrifiad hefyd yn cynnwys dau offer ar-lein soffistigedig, sy’n darparu amgylchedd ddigidol blaengar er mwyn eich cynorthwyo i ymgysylltu â'r dramâu yn fwy dwfn.


Wednesday, 1 May 2013

Cyfarfod Ymchwil ar y cyd rhwng y Sefydliad Astudiaethau Cyfreithiol Uwch a Phrifysgol Bangor

Bwriad: Cyfarfod hanner diwrnod i ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor sydd â diddordeb yn y gyfraith, troseddeg a chysylltiadau rhyngwladol.
Lleoliad: Prifysgol Aberystwyth; E3 Canolfan Ymarfer y Gyfraith, Adeilad Hugh Owen
Dyddiad: Prynhawn dydd Mercher 17 Ebrill

Rhaglen y digwyddiadau

Amser          Digwyddiad
12.45            Lluniaeth wrth gyrraedd – Ystafell Gynhadledd y Gyfraith

1.15              Richard Ireland, Darlithydd Hŷn Y Gyfraith a Throseddeg a Bill Hines, Cymrawd er Anrhydedd a chyn Lyfrgellydd y Gyfraith yn Aberystwyth –  sylwi i rai o drysorau llai hysbys ac adnoddau ymchwil a gedwir yn Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth.

2.00 - 3.00    Sefydliad Astudiaethau Cyfreithiol Uwch – arddangos eu gwasanaethau ac adnoddau i ymchwilwyr, gan gynnwys:
  • Datblygu porth Eagle-I ar wefan y Sefydliad i gyfeirio ymchwilwyr at adnoddau o safon ar y rhyngrwyd
  • Adnoddau cyfreithiol tramor, rhyngwladol a chymharol yn Llyfrgell y Sefydliad: arweiniad i’n casgliadau print ac electronig
  • Llyfrgell y Gyfraith Electronig y Sefydliad: amlinelliad i’r cronfeydd data niferus sydd ar gael yn fewnol ac oddi allan
  • Rhagoriaethau defnyddio’r Sefydliad i ymchwilwyr
  • BAILI: y British and Irish Legal Information Institute
3.00 - 3.15.    Cofrestru staff a myfyrwyr i ddefnyddio llyfrgell y Sefydliad Astudiaethau Cyfreithiol Uwch yn Sgwâr Russell, Llundain, a’u hadnoddau electronig.

3.15             Taith o gwmpas Llyfrgell y Gyfraith ac adnoddau llyfrgell Prifysgol Aberystwyth (Lillian Stevenson, Rheolwr Gwasanaethau Academaidd/ Llyfrgell y Gyfraith) i’n hymwelwyr o Brifysgol Bangor.

Tuesday, 23 April 2013

Ffynonellau ar gyfer Cyrsiau: Papurau Newydd Cymru ar-lein





Mae'r adnodd ar-lein hyblyg hwn yn eich galluogi i ddarganfod miliynau o erthyglau sydd yng nghasgliad cyfoethog o bapurau newydd hanesyddol y Llyfrgell Genedlaethol. Mae modd ichi chwilio a chael mynediad i dros 250,000 o dudalennau  24 papur newydd gwahanol hyd at 1910.


Mae papurau newydd yn cynrychioli ffynhonnell bwysig iawn ar gyfer astudio hanes diweddar, ac mae'r prosiect hwn yn galluogi mynediad hawdd i dros 600,000 o dudalennau yn rhad ac am ddim.





Tuesday, 9 April 2013

Gwasanaeth Argymell Erthyglau Cyfnodolion yn Primo

Pan fyddwch yn chwilio am erthyglau cyfnodolion yn defnyddio Primo Central, efallai y byddwch yn dod ar draws tab sy'n dangos erthyglau perthnasol. Mae hwn yn argymell erthyglau y mae’n tybio a all fod o ddefnydd i chi, yn seiliedig ar ystadegau defnydd ysgolheigaidd.

I ddefnyddio'r gwasanaeth, mewngofnodwch i Primo, dewiswch Primo Central o'r gwymplen ar bwys y blwch chwilio a chlicio ar y tab Argymhellion yn y canlyniadau chwilio.

Mae'r nodwedd hon yn gweithio mewn ffordd debyg i'r nodweddion ar safleoedd masnachol megis Amazon, sy'n gallu darparu argymhellion personol yn seiliedig ar eich chwilio a hanes prynu.

Yn yr enghraifft hon, mae agor erthygl cyfnodolyn sy’n dwyn y teitl Economics yn The ANNALS of the American Academy of Political and Social Science yn cynhyrchu rhestr o erthyglau tebyg sy’n cael eu hargymell.