Tuesday 9 April 2013

Gwasanaeth Argymell Erthyglau Cyfnodolion yn Primo

Pan fyddwch yn chwilio am erthyglau cyfnodolion yn defnyddio Primo Central, efallai y byddwch yn dod ar draws tab sy'n dangos erthyglau perthnasol. Mae hwn yn argymell erthyglau y mae’n tybio a all fod o ddefnydd i chi, yn seiliedig ar ystadegau defnydd ysgolheigaidd.

I ddefnyddio'r gwasanaeth, mewngofnodwch i Primo, dewiswch Primo Central o'r gwymplen ar bwys y blwch chwilio a chlicio ar y tab Argymhellion yn y canlyniadau chwilio.

Mae'r nodwedd hon yn gweithio mewn ffordd debyg i'r nodweddion ar safleoedd masnachol megis Amazon, sy'n gallu darparu argymhellion personol yn seiliedig ar eich chwilio a hanes prynu.

Yn yr enghraifft hon, mae agor erthygl cyfnodolyn sy’n dwyn y teitl Economics yn The ANNALS of the American Academy of Political and Social Science yn cynhyrchu rhestr o erthyglau tebyg sy’n cael eu hargymell.



Mae'r data sy’n cefnogi’r argymhellion hyn yn seiliedig ar weithgaredd  ysgolheigion mewn sefydliadau ymchwil o fri ledled y byd.

Ceir Cwestiwn Cyffredin yma: http://www.inf.aber.ac.uk/advisory/faq/1073 

No comments: