Tuesday 23 April 2013

Ffynonellau ar gyfer Cyrsiau: Papurau Newydd Cymru ar-lein





Mae'r adnodd ar-lein hyblyg hwn yn eich galluogi i ddarganfod miliynau o erthyglau sydd yng nghasgliad cyfoethog o bapurau newydd hanesyddol y Llyfrgell Genedlaethol. Mae modd ichi chwilio a chael mynediad i dros 250,000 o dudalennau  24 papur newydd gwahanol hyd at 1910.


Mae papurau newydd yn cynrychioli ffynhonnell bwysig iawn ar gyfer astudio hanes diweddar, ac mae'r prosiect hwn yn galluogi mynediad hawdd i dros 600,000 o dudalennau yn rhad ac am ddim.






Byddwch yn darganfod mwy na hen gopïau o'r Cambrian News. Mae’r casgliad digidol hwn yn adlewyrchu daliadau ffisegol y Llyfrgell Genedlaethol  a bydd yn tyfu i dros 1 miliwn o dudalennau wrth i fwy o gyhoeddiadau gael eu hychwanegu yn ystod 2013.



Sganiwyd y casgliad yn dilyn buddsoddiad mewn stiwdio ddigideiddio newydd yn y Llyfrgell ac mae tîm o staff ymroddedig yn paratoi a sganio pob tudalen.
 
Gellir chwilio’r erthyglau fesul cynnwys, a darperir trawsgrifiad wedi'i deipio  ar gyfer eglurder.







Ariennir Papurau Newydd Cymru Arlein Beta yn rhannol gan Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol a’r Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru.
Gellir cael mwy o fanylion am y prosiect yma, ac anogir defnyddwyr i gynnig adborth er mwyn ei ddatblygu yn ymhellach

Mae'r adnodd hwn ar gael drwy Gronfeydd Data AZ ar Primo

No comments: