Monday 8 August 2011

Ffynonellau ar gyfer Cyrsiau: Tu hwnt i Google Maps ... EDINA Digimap Collections

Gan Rosie Atherton (Cyn Fyfyriwr Graddedig Dan Hyfforddiant yn y Gwasanaethau Gwybodaeth)

Fel un sy’n cyfaddef ei bod wrth ei bodd â Google Maps, byddwn yn argymell treulio awr neu ddwy yn pori drwy fyd hynod ddiddorol EDINA Digimap Collections.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi tanysgrifio i ddefnyddio EDINA Digimap Collections, ac mae hyn yn galluogi holl fyfyrwyr a staff Aberystwyth i gofrestru i ddefnyddio’r adnodd Digimap … yn rhad ac am ddim! Fel defnyddiwr cofrestredig, bydd modd i chi ddefnyddio Historic Digimap, Geology Digimap yn ogystal â chasgliad yr Arolwg Ordnans.



I gofrestru bydd angen i chi ymweld ag EDINA Digimap Collections neu ddod o hyd i Digimap drwy Primo (Dilynwch y ddolen: Databases A-Z)

Mae casgliad yr Arolwg Ordnans (AO) yn dod â mapiau AO o bob rhan o’r Deyrnas Unedig ynghyd ar un ffurf hawdd i’w ddefnyddio. Yr hyn sy’n gwneud yr adnodd hwn yn well na Google Maps yw’r gallu i ryngweithio â’r hyn sydd ar eich sgrin, ac i greu mapiau wedi’u teilwra i’ch anghenion.
  • anodi mapiau â labeli, mesuriadau, siapiau a symbolau wedi’i personoli
  • rheoli pa dirnodau a nodweddion sy’n cael eu dangos
  • mesur ardaloedd a phellteroedd yn gywir
  • 12 gwahanol lefel o fanylder
  • y gallu i arbed mapiau o’r tri chasgliad i storfa bersonol My Maps, i’w golygu, eu cymharu neu eu hargraffu yn ddiweddarach.
Mae’r map hwn o lan y môr yn Aberystwyth yn dangos y manylder sydd ar gael drwy ddewis y map mwyaf manwl…

Map arall o’r casgliad AO, y tro hwn yn cynnwys y bar offer a ellir ei ddefnyddio i olygu ac addasu’r hyn a welwch ar y sgrin

Mae Historic Digimap yn adnodd gwirioneddol wych. Tra bod y casgliad AO yn eich galluogi i archwilio dinasoedd, trefi a phentrefi fel y maent heddiw, mae Historic Digimap yn galluogi defnyddwyr cofrestredig i edrych ar fapiau o gyfnodau mor bell yn ôl â 1840!

Ond eto, mae Historic Digimap yn cynnig llawer mwy na phori yn unig.
Fel ag yn achos y casgliad AO, gallwch
  • fesur pellteroedd ac ardaloedd yn gywir
  • cymharu hyd at 4 map hanesyddol neu gyfoes mewn un ffenest
  • defnyddio arfau chwilio hanesyddol a chyfoes i ddod o hyd i leoliad drwy ddefnyddio’r cod post cyfoes, enw’r lle, y cyfeirnod grid neu enw’r plwyf hanesyddol a’r sir
  • dewis a gweld mapiau o unrhyw ddegawd (1840 - hyd heddiw)
Mae Historic Digimap yn cynnig 12 gwahanol lefel o fanylder. Gallwch hefyd weld rhagolwg o fapiau llawn [drwy ddefnyddio’r botwm Preview Full Map Sheet].
Mae’r map hwn yn dangos pentref Giggleswick yng Ngogledd Swydd Efrog (y pentref lle magwyd seren y rhaglen Countdown, Richard Whiteley…) fel yr oedd yn ystod y 1850au, ac eto fel yr oedd yn ystod y 1990au.

Mae tanysgrifiad y Brifysgol hefyd yn eich galluogi i ddefnyddio Geology Digimap, sy’n cynnig
  • 1:625,000 daeareg solet a drifft
  • 1:250,000 daeareg solet a nodweddion llinol
  • 1:50,000 daeareg solet a drifft, màs-symudiad, daear artiffisial a saith haen o wahanol nodweddion llinol
  • Yr adnodd: BGS Lexicon of Named Rock Units
Mae hyn oll ar gael i’w argraffu, ei archwilio a’i lawr lwytho!

Rhai awgrymiadau a chynghorion pellach…
  • Mae EDINA Digimap Collections yn cynnwys adnodd syml i lawr lwytho data, fel bod modd i chi lawr lwytho’r mapiau rydych yn edrych arnynt i’w defnyddio mewn System Gwybodaeth Ddaearyddol neu feddalwedd prosesu delweddau
  • Mae EDINA Digimap Collections yn cynnig cymorth ar-lein i ddefnyddwyr, i’ch helpu i ddeall a gwneud y gorau’ o’ch mapiau!
  • Os ydych yn gweithio oddi ar y campws, cofiwch fewngofnodi i Primo cyn defnyddio EDINA Digimap Collections i sicrhau eich bod wedi’ch dilysu.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau os gwelwch yn dda cysylltwch â:

Tîm Gwasanaethau Academaidd
acastaff@aber.ac.uk
01970621896

No comments: