Wednesday 20 July 2011

Archif ar-lein anferth yn rhoi cipolwg o ddyfodiad y Tsieina fodern



Yn ddiweddar cafodd 8,000 o ffotograffau prin, yn darlunio bywyd yn Tsieina tua dechrau’r ugeinfed ganrif, eu lansio ar-lein drwy’r prosiect Visualising China – sef archif rhithwir unigryw sy’n cynnig cyfleoedd newydd i ymchwilwyr ymchwilio a rhyngweithio â delweddau o Tsieina a gymerwyd rhwng 1850-1950.



Mae’r safle’n galluogi ymchwilwyr i ddefnyddio’r casgliadau mawr ar-lein yn rhad ac am ddim, megis Historical Photographs of China (Prifysgol Bryste), The Sir Robert Hart Collection (Prifysgol Queens, Belfast) a Photographs of Wartime China gan Joseph Needham (Sefydliad Ymchwil Needham, Caergrawnt), yn ogystal â chasgliadau preifat a rhai nas gwelwyd o’r blaen, a detholiad ar Google Books o gyhoeddiadau’n ymwneud â Tsieina.

Gall ymchwilwyr ychwanegu sylwadau neu anodiadau at y delweddau, trefnu delweddau ar eu meinciau gwaith eu hunain, lawr lwytho delweddau cydraniad isel, ac archwilio’r casgliadau drwy wneud chwiliadau geiriau, dyddiadau, ffotograffwyr, pobl a ddarlunnir, mapiau a thermau dosbarthu.

Gweler.

No comments: