Ewch i’r Oxford Dictionary of National Biography (ODNB) neu Gronfa Ddata A-Z yn Primo: http://primo.aber.ac.uk/.
Yn yr adran sy’n canolbwyntio ar y Gymru Fodern ym mis Mai fe ychwanegodd yr Oxford Dictionary of National Biography 45 bywgraffiad o ŵyr a gwragedd a luniodd hanes diwylliant, gwleidyddiaeth, diwydiant a chwaraeon Cymru.
Cadwch lygad allan am bosteri dwyieithog yn Llyfrgell Hugh Owen yr wythnos hon.
Mae’r bywgraffiadau newydd yn cynnwys:
- Lewis Valentine, llywydd cyntaf Plaid Cymru
- Y gantores Edith Wynne “Eos Cymru”
- Yr actor a’r digrifwr Ryan Davies
- 57,800 o fywgraffiadau wedi eu croes-gysylltu â theuluoedd, ffrindiau a chyfoedion
- Lluniau, llyfryddiaethau a rhestrau archif
- Chwiliadau testun llawn
- Rhestrau, grwpiau a thaethodau themaol
- Podlediad dwywaith y mis
Augustus John
Chwiliad testun llawn: BBC Cymru
Awgrymiadau
- Defnyddiwch y botymau yn References a ddarperir ar gyfer pob bywgraffiad i weld os yw’r llyfrau a restrir ar gael yn llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth
- Sgroliwch at ddiwedd tudalen pob bywgraffiad i weld os oes yna ddolen DNB Archive ar y chwith; os oes ceir yna fywgraffiad cynharach
- Rhowch gynnig ar y tab Themes e.e. The Rising of Owain Glyndŵr
Dewch o hyd i fywgraffiadau cyfredol trwy gyfrwng tanysgrifiad Prifysgol Aberystwyth i Who’s Who sydd hefyd at gael trwy gyfrwng Cronfeydd Data A-Z yn Primo http://primo.aber.ac.uk/
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, neu am drefnu sesiwn hyfforddi neu sesiwn loywi ar ffynonellau ar-lein ym Mhrifysgol Aberystwyth, os gwelwch yn dda cysylltwch â:
Tîm Gwasanaethau Academaidd
acastaff@aber.ac.uk
01970621896
No comments:
Post a Comment