Wednesday, 29 June 2011

Connected Histories



Mae ‘Connected Histories’ yn darparu un man canolog i chi gael gafael ar ystod eang o adnoddau digidol yn ymwneud â hanes Prydain yn y cyfnod modern cynnar a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’n rhoi modd i chi chwilio am enwau, lleoedd a dyddiadau ac yn golygu y gallwch ddefnyddio miliynau o dudalennau o destun, cannoedd o filoedd o eiriau a degau o filoedd o fapiau a lluniau. Caiff ymchwilwyr glicio’r llygoden i agor trysorfa o dystiolaeth am bob pwnc, bron, yn hanes Prydain; o briodasau brenhinol, mudiadau diwygio seneddol, troseddwyr drwg-enwog, i fywydau pobl gyffredin yn Llundain.



Mae’n ymgorffori’r adnoddau digidol hyn:
  • British History Online
  • British Newspapers 1600-1900
  • Charles Booth Online Archive
  • Clergy of the Church of England Database 1540-1835
  • London Lives, 1690-1800
  • Old Bailey Proceedings Online, 1674-1913
  • Origins Network
  • Parliamentary Papers
  • Printed Ephemera from the Bodleian Library
  • Strype's Survey of London
Bydd y rhestr o adnoddau yn tyfu’n sylweddol dros amser wrth i ffynonellau newydd gael eu hychwanegu ati. Cewch weld yr adnoddau yma. Mae’r holl newyddion diweddaraf am waith digideiddio JISC i brifysgolion a cholegau ar gael ar ei flog digideiddio.

No comments: