Thursday 3 February 2011

Gweithio’n gallach – sgiliau astudio i fyfyrwyr yn Blackboard


Gall israddedigion sydd am ddiweddaru eu sgiliau astudio yn awr gofrestru ar fodiwl heb ei gredydu yn BlackBoard a dewis dosbarthiadau o’r Rhaglen Ymarferion Astudio Israddedig.



  • Mae’r dosbarthiadau, a gynhelir ar brynhawniau Mercher yn Adeilad Llandinam a Llyfrgell Hugh Owen, yn canolbwyntio ar ysgrifennu, cyfathrebu a sgiliau gwybodaeth
  • Gall myfyrwyr gofrestru ar BlackBoard ac ymuno â chyfran o’r dosbarthiadau neu’r dosbarthiadau i gyd
  • Anfonir ebyst atodol i gasglu adborth arlein
  • Bydd deunyddiau dysgu ar gael yn y modiwl wedi’r dosbarth
  • Hyrwyddir y rhaglenni hyn trwy gyfrwng ebyst wythnosol, FaceBook, Twitter a phosteri
  • Bydd modiwl ar gyfer Uwchraddedigion ar gael cyn bo hir

Cynhaliwyd y Rhaglenni Ymarferion Astudio cyntaf, prosiectau ar y cyd rhwg Cymorth Myfyrwyr, Gwasanaethau Gwybodaeth a’r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn ystod semester un. Mae modiwlau peilot newydd Blackboard heb eu credydu yn cael eu cefnogi gan bwyllgor llywio ALTO. Cyswllt: study-skills@aber.ac.uk

No comments: