Monday, 7 September 2015

Cwrdd â'ch Llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd #14



Lloyd ydw i, a fi yw'r Llyfrgellydd Pwnc newydd i'r Ysgol Gelf;  y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd; Hanes a Hanes Cymru, a'r Gyfraith a Throseddeg.  Ymunais â'r Gwasanaethau Gwybodaeth ar ôl gorffen fy PhD mewn Casgliadau Llyfrgellol Digidol a Hanes Celf gyda'r Ysgol Gelf ac Adran Ymchwil Llyfrgell Genedlaethol Cymru.  Hanes Celf ym Mhrifysgol Nottingham oedd fy ngradd gyntaf, ac wedyn fe ges i MSc mewn Rheoli Gwybodaeth a Llyfrgelloedd o Brifysgol Gorllewin Lloegr.   Yn y cyfamser, rwy wedi gweithio mewn sawl gwahanol fath o lyfrgell, gan gynnwys Llyfrgell y Sefydliad Uwch Astudiaethau Cyfreithiol ym Mhrifysgol Llundain; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; llyfrgell Sefydliad Celf Courtauld; a changhennau llyfrgelloedd cyhoeddus Casnewydd.  

Efallai y daeth fy awydd i roi trefn ar anhrefn o'm casgliad anhylaw a rhy fawr o recordiau.  Dechreuais gasglu pan roddodd fy mam-gu'r record 7” Don’t Believe the Hype gan Public Enemy  imi pan oeddwn tua 12 oed.  Er fy mod i'n hoffi meddwl bod fy Nana yn edmygwr brwd o rap gwleidyddol arfordir dwyrain America mewn gwirionedd dim ond stoc oedd heb ei gwerthu oedd hi o'i siop gerddoriaeth, sef siop fendigedig Falcon Music yn Llanelli.   Roeddwn i'n gweithio yn y siop pan oeddwn ychydig yn hŷn; roedd y siop yn gwerthu offerynnau yn hytrach na recordiau erbyn hynny.  Gweithio yn siop gitarau'ch mam-gu yw'r swydd Sadwrn fwyaf cwl y gallwch ei chael.    

Am ragor o wybodaeth am bwysigrwydd cynnal casgliad mawr o recordiau rhyfedd ac er mwyn ymarfer eich sgiliau gwybodaeth/llythrennedd digidol, chwiliwch am Wax Trash and Vinyl Treasures: Record Collecting as a Social Practice gan Roy Shuker, sydd ar gael yn Llyfrgell Hugh Owen ar fformatau papur ac electronig.  

Er mwyn dysgu sut mae rhoi hypergyswllt yn uniongyrchol i gofnod unigol yn Primo, gweler y Cwestiwn Cyffredin hwn.

Thursday, 3 September 2015

Canllawiau Ar-lein ar y Llyfrgelloedd a TG i Fyfyrwyr Newydd

I helpu'r myfyrwyr newydd i ymgyfarwyddo â'n hadnoddau llyfrgell a TG cyn iddynt gyrraedd y campws, rydym wedi llunio canllawiau ar-lein newydd i roi braslun o'r gwasanaethau sydd ar gael. 
Mae'r cyflwyniad ar-lein yn cynnwys rhannau ar:
  • Defnyddio ein llyfrgelloedd a'u hamseroedd agor a'u hadnoddau
  • Yr offer sydd ar gael ar gyfer astudio, gan gynnwys ebost, llwyfan Blackboard a'r cyswllt diwifr
  • Sut i argraffu a llungopïo
  • Sut i ddod o hyd i adnoddau'r llyfrgelloedd
  • Sut i gysylltu â ni.
Mae hefyd holiadur byr i'r defnyddwyr ei gwblhau ar ddiwedd y cyflwyniad er mwyn rhoi prawf ar faint a wyddent am ein gwasanaethau.
Mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth hefyd yn cynnig teithiau o'r llyfrgell yn ystod Wythnos y Glas. Fe'u cynhelir ar yr awr rhwng 11 y bore a 3 y prynhawn yn Llyfrgell Hugh Owen. Rydym yn argymell bod pob myfyriwr newydd yn dod ar un o'r teithiau hyn er mwyn cael dealltwriaeth ymarferol o'r adnoddau sydd gan y llyfrgell i'w cynnig.

Ewch i’r canllaw cynefino arlein a’r fersiwn hygyrchu

Monday, 17 August 2015

Hyfforddiant Aspire – Ar gael nawr.



Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth newydd gyhoeddi canllaw cynhwysfawr ar greu a chyhoeddi rhestrau darllen yn Aspire.
Bydd y canllaw yn egluro popeth sydd angen i chi wybod cyn creu rhestr; creu proffil personol; llunio rhestr ddarllen ar gyfer modiwl; ychwanegu offeryn nodau tudalen Aspire i’ch porwr, a’i ddefnyddio i greu nodau tudalen ar gyfer eich adnoddau, ac ychwanegu’r adnoddau hynny i’ch rhestr cyn mynd ymlaen i’w chyhoeddi. Gallwch ddod o hyd i’r canllaw yma, a gallwch naill ai ei ddarllen ar y wefan neu ei lawrlwytho.

Box of Broadcasts – Ar gael nawr!

Mae buddsoddiad parhaus Prifysgol Aberystwyth mewn adnoddau llyfrgell yn parhau gyda’r adnodd ardderchog ‘Box of Broadcasts’ (neu “BoB"!). Mae’r system hon yn hawdd i’w defnyddio ac mae’n galluogi staff a myfyrwyr i recordio a gwylio’r rhaglenni y maent wedi’u colli (ar, neu oddi ar y campws), trefnu recordiadau ymlaen llaw, golygu rhaglenni yn glipiau, creu rhestrau chwarae, mewnosod clipiau i Amgylcheddau Dysgu Rhithwir, rhannu clipiau ag eraill, [a] chwilio archif o ddeunydd sy’n tyfu o hyd”. Ar hyn o bryd mae’r archif yn cynnwys dros filiwn o raglenni ac mae’r safle’n darparu mynediad i dros 60 sianel radio a theledu.

Mae’r gwelliannau diweddaraf a restrir ar y safle yn cynnwys:
• ychwanegu holl raglenni teledu a radio’r BBC o 2007 ymlaen (dros 800,000 o raglenni)
• dros 10 o sianeli ieithoedd tramor, gan gynnwys Ffrangeg, Almaeneg ac Eidaleg
• byffer recordio 30 diwrnod estynedig - mwy o amser i recordio’r rhaglenni rydych yn eu colli
• gwefan wedi’i ailwampio, sy’n haws i’w defnyddio
• Cydnaws ag Apple iOS - gwyliwch ‘BoB’ ar declynnau llaw
• trawsgrifiadau chwiliadwy
• dolenni i gyfryngau cymdeithasol – rhannwch yr hyn rydych yn ei wylio ar-lein
• adnodd i greu cyfeiriadau un-clic, i’ch galluogi i gyfeirio at raglennu yn eich gwaith

Mae yna hefyd ffrwd Trydar: @bufc_bob lle ceir diweddariadau am y safle a negeseuon trydar gan ddefnyddwyr sydd wedi dod o hyd i ddeunyddiau diddorol yn archif BoB.
Cliciwch ar ‘Box of Broadcasts’ i fynd i’r safle, mewngofnodwch gan ddefnyddio’ch manylion Aber, a mwynhewch  fynediad dihafal i lu o ddarllediadau teledu a radio.

Monday, 3 August 2015

Mass Observation Online Rhannau III a IV – ar Gael Nawr!


Yn rhan o'i hymroddiad i barhau i fuddsoddi yn ei llyfrgelloedd, mae Prifysgol Aberystwyth wedi prynu dwy ran ychwanegol yn ddiweddar er mwyn cwblhau'r adnodd Mass Observation Online sef yr astudiaeth enwog ar “fywydau beunyddiol pobl gyffredin ym Mhrydain”.
Mae Rhannau III a IV yn estyniad o gynnwys y ddwy ran flaenorol. Mae cynnwys sylweddol o'r deunydd yn dod o ddyddiadau a ysgrifennid gan ddynion a menywod o 1946-1950 yn ogystal â Chyfarwyddebau o'r blynyddoedd 1946 a 1947; mae 65 o Gasgliadau Pynciau newydd wedi'u creu, gan gynnwys:
  • Propaganda a Morâl
  • Gwrthwynebwyr Cydwybodol a Heddychiaeth
  • Yr Heddlu, y Gyfraith a Pharatoadau at Ymosodiad Posib gan Luoedd yr Almaen, 1939-1941
  • Gwedd Bersonol a Dillad, 1938-54
  • Plant ac Addysg, 1937-1952
  • Menywod yn ystod y Rhyfel, 1939-1945
 
Ar ben hynny, fel y mae gwefan Mass Observation Online yn ei ddweud: “Mae'r cynnwys newydd yn darparu cyfleoedd am ymchwil fanwl i bynciau yn y cyfnod o lymder ar ôl y rhyfel, ac yng nghyfnod twf prynwriaeth a'r wladwriaeth les: Dadfyddino, Iechyd a'r GIG, Ailadeiladu ar ôl y Rhyfel,, Diwydiant, Chwaraeon, Gwyliau a Hamdden”
 
Gellir cael gafael ar wefan Mass Observation Online hefyd drwy'r Gronfa A-Z ar Primo, os nad ydych chi ar y campws bydd angen i chi fewngofnodi i Primo gan roi'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair Aber er mwyn cael defnyddio'r wefan.
Mae croeso i chi ebostio at Llyfrgellwyr Pwnc yn: acastaff@aber.ac.uk gydag unrhyw sylwadau neu gwestiynau fo gennych chi am 'Mass Observation Online'.
 

Monday, 6 July 2015

Adnewyddu eich rhestrau darllen presennol ar Aspire ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd

Ers y Copi o’r Rhestr Ddarllen ar 23 Mehefin gallwch weld eich rhestrau darllen presennol ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod (2015-2016) a rhestrau'r llynedd (2014-2015) pan fyddwch yn clicio ar Fy Rhestrau yn Aspire.
Bydd staff y llyfrgell yn dechrau prynu llyfrau a chaffael adnoddau eraill ar gyfer eich rhestr ddarllen.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chi am ychwanegu eich rhestrau darllen ar gyfer modiwlau hir a thenau a Semester 1 i Aspire mewn da bryd cyn dechrau’r flwyddyn academaidd newydd.

Os oes gennych chi ragor o gwestiynau neu os hoffech gael hyfforddiant neu wybodaeth am ddefnyddio Aspire e-bostiwch ni ar acastaff@aber.ac.uk neu ffoniwch 1896.