Mae buddsoddiad parhaus Prifysgol Aberystwyth mewn adnoddau llyfrgell yn parhau gyda’r adnodd ardderchog ‘Box of Broadcasts’ (neu “BoB"!). Mae’r system hon yn hawdd i’w defnyddio ac mae’n galluogi staff a myfyrwyr i recordio a gwylio’r rhaglenni y maent wedi’u colli (ar, neu oddi ar y campws), trefnu recordiadau ymlaen llaw, golygu rhaglenni yn glipiau, creu rhestrau chwarae, mewnosod clipiau i Amgylcheddau Dysgu Rhithwir, rhannu clipiau ag eraill, [a] chwilio archif o ddeunydd sy’n tyfu o hyd”. Ar hyn o bryd mae’r archif yn cynnwys dros filiwn o raglenni ac mae’r safle’n darparu mynediad i dros 60 sianel radio a theledu.
Mae’r gwelliannau diweddaraf a restrir ar y safle yn cynnwys:
• ychwanegu holl raglenni teledu a radio’r BBC o 2007 ymlaen (dros 800,000 o raglenni)
• dros 10 o sianeli ieithoedd tramor, gan gynnwys Ffrangeg, Almaeneg ac Eidaleg
• byffer recordio 30 diwrnod estynedig - mwy o amser i recordio’r rhaglenni rydych yn eu colli
• gwefan wedi’i ailwampio, sy’n haws i’w defnyddio
• Cydnaws ag Apple iOS - gwyliwch ‘BoB’ ar declynnau llaw
• trawsgrifiadau chwiliadwy
• dolenni i gyfryngau cymdeithasol – rhannwch yr hyn rydych yn ei wylio ar-lein
• adnodd i greu cyfeiriadau un-clic, i’ch galluogi i gyfeirio at raglennu yn eich gwaith
Mae yna hefyd ffrwd Trydar: @bufc_bob lle ceir diweddariadau am y safle a negeseuon trydar gan ddefnyddwyr sydd wedi dod o hyd i ddeunyddiau diddorol yn archif BoB.
Cliciwch ar ‘Box of Broadcasts’ i fynd i’r safle, mewngofnodwch gan ddefnyddio’ch manylion Aber, a mwynhewch fynediad dihafal i lu o ddarllediadau teledu a radio.
No comments:
Post a Comment