Monday, 7 September 2015

Cwrdd â'ch Llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd #14



Lloyd ydw i, a fi yw'r Llyfrgellydd Pwnc newydd i'r Ysgol Gelf;  y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd; Hanes a Hanes Cymru, a'r Gyfraith a Throseddeg.  Ymunais â'r Gwasanaethau Gwybodaeth ar ôl gorffen fy PhD mewn Casgliadau Llyfrgellol Digidol a Hanes Celf gyda'r Ysgol Gelf ac Adran Ymchwil Llyfrgell Genedlaethol Cymru.  Hanes Celf ym Mhrifysgol Nottingham oedd fy ngradd gyntaf, ac wedyn fe ges i MSc mewn Rheoli Gwybodaeth a Llyfrgelloedd o Brifysgol Gorllewin Lloegr.   Yn y cyfamser, rwy wedi gweithio mewn sawl gwahanol fath o lyfrgell, gan gynnwys Llyfrgell y Sefydliad Uwch Astudiaethau Cyfreithiol ym Mhrifysgol Llundain; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; llyfrgell Sefydliad Celf Courtauld; a changhennau llyfrgelloedd cyhoeddus Casnewydd.  

Efallai y daeth fy awydd i roi trefn ar anhrefn o'm casgliad anhylaw a rhy fawr o recordiau.  Dechreuais gasglu pan roddodd fy mam-gu'r record 7” Don’t Believe the Hype gan Public Enemy  imi pan oeddwn tua 12 oed.  Er fy mod i'n hoffi meddwl bod fy Nana yn edmygwr brwd o rap gwleidyddol arfordir dwyrain America mewn gwirionedd dim ond stoc oedd heb ei gwerthu oedd hi o'i siop gerddoriaeth, sef siop fendigedig Falcon Music yn Llanelli.   Roeddwn i'n gweithio yn y siop pan oeddwn ychydig yn hŷn; roedd y siop yn gwerthu offerynnau yn hytrach na recordiau erbyn hynny.  Gweithio yn siop gitarau'ch mam-gu yw'r swydd Sadwrn fwyaf cwl y gallwch ei chael.    

Am ragor o wybodaeth am bwysigrwydd cynnal casgliad mawr o recordiau rhyfedd ac er mwyn ymarfer eich sgiliau gwybodaeth/llythrennedd digidol, chwiliwch am Wax Trash and Vinyl Treasures: Record Collecting as a Social Practice gan Roy Shuker, sydd ar gael yn Llyfrgell Hugh Owen ar fformatau papur ac electronig.  

Er mwyn dysgu sut mae rhoi hypergyswllt yn uniongyrchol i gofnod unigol yn Primo, gweler y Cwestiwn Cyffredin hwn.

No comments: