Wednesday, 4 November 2015

Datganiad Cymunedau Ewropeaidd ar Fodelau Amgen ar gyfer Cyhoeddi Mynediad Agored

Gyda’r Undeb Ewropeaidd a’r mwyafrif o gyllidwyr ymchwil mawr y DU bellach yn ei gwneud yn orfodol i gyhoeddi ymchwil a gyllidir yn gyhoeddus drwy Fynediad Agored, mae’r galwadau i ddatblygu model tymor hir, cynaliadwy o gyhoeddi mynediad agored yn tyfu’n fisol. Fel rhan o’r broses hon, trefnodd y Comisiwn Ewropeaidd weithdy ym Mrwsel ar 12 Hydref i gasglu gwybodaeth ac adfyfyrio ar rai o’r modelau cyllidol sefydledig a rhai sydd wedi’u datblygu’n ddiweddar ym maes cyhoeddi Mynediad Agored.

Mae gan y model mynediad agored gwyrdd sy’n defnyddio ystorfeydd sefydliadol neu bwnc a’r model mynediad agored aur sydd â thaliadau prosesu erthygl ill dau eu manteision a’u hanfanteision, ond mae modelau newydd yn dod i’r amlwg bellach a allai optimeiddio’r modelau cyfredol a ffurfio llwybrau ar gyfer creu senarios mynediad agored newydd. Gellir gweld y cyflwyniadau a roddwyd ar rai o’r modelau mynediad agored newydd hyn ar wefan Ymchwil ac Arloesi Agenda Digidol y Gymuned Ewropeaidd.

Lansiwyd trafodaeth ar ddyfodol modelau cyhoeddi Mynediad Agored hefyd ar y Llwyfan Digital4Science newydd. Gallwch ymuno â’r drafodaeth yma:
https://ec.europa.eu/futurium/en/content/what-future-open-access-publishing

Yn ogystal â’r gweithdy cyhoeddodd Comisiynydd Ymchwil y CE Carlos Moedas ddatganiad yn galw ar gyhoeddwyr i addasu eu modelau cyhoeddi Mynediad Agored i’r realiti cyllidol newydd. Mae'r datganiad hwn i'w weld ar wefan Europa y CE.

Steve Smith
Grwp Cysylltiadau Academaidd
Llyfrgell Hugh Owen
4 Tachwedd 2015


Monday, 2 November 2015

Rhestrau darllen Aspire: newid i ddigideiddio ar gais

Wrth ddiweddaru rhestrau Aspire ar gyfer 2016-2017 dylai’r cydlynwyr ychwanegu’r Nodyn i'r Llyfrgell "Digideiddiwch os gwelwch yn dda" ar gyfer yr holl bennodau ac erthyglau ar restrau darllen Aspire yr hoffent i’r llyfrgell eu digideiddio cyn eu hailgyhoeddi.

Ar ôl gwrando ar adborth, gwnaed y newid hwn i sicrhau bod y penodau a’r erthyglau, a ystyrir y rhai pwysicaf ar gyfer y modiwl gan y cydlynydd, yn cael eu digideiddio mewn da bryd i’w dysgu. Fel arfer, bydd staff y llyfrgell yn cysylltu â chi os nad oes modd digideiddio’r deunydd e.e. am resymau hawlfraint.

Bydd staff y Llyfrgell yn digideiddio yn unol â’r canllawiau blaenorol tan y dyddiad cau ar gyfer rhestrau darllen Aspire Semester Dau, 30 Tachwedd 2015. Nid yw’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn gwarantu y bydd unrhyw beth a ychwanegir at restrau Aspire Semester Dau (neu at restrau modiwlau a ddysgir dros y ddau semester) ar ôl 30 Tachwedd ar gael i’w dysgu yn Semester Dau.

Os ydych yn gydlynydd modiwl dysgu o bell neu fodiwl Semester Tri 2015-2016, dechreuwch ychwanegu Nodiadau i’r Llyfrgell at eich rhestrau darllen Aspire cyn gynted â phosibl os gwelwch yn dda.

Os gwelwch yn dda cysylltwch â’ch llyfrgellydd pwnc os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â hyn.Efallai bydd y dolenni isod o ddefnydd:

Os gwelwch yn dda cysylltwch â’ch llyfrgellydd pwnc neu’r tîm Gwasanaethau Academaidd acastaff@aber.ac.uk 01970621896 os ydych am hyfforddiant neu sesiwn ddiweddaru. Rydym yn hapus i ymweld â chi ar adeg a lle sy’n gyfleus i chi.

Thursday, 29 October 2015

Datganiad Mynediad Agored Cynghrair Prifysgolion Ymchwil Ewrop (LERU)

Cyhoeddodd Cynghrair Prifysgolion Ymchwil Ewrop (LERU) ddatganiad newydd ar fynediad agored ar 12 Hydref 2015 yn galw ar i gyllid ymchwil ganolbwyntio ar ymchwil, yn hytrach na chael ei ddargyfeirio’n ormodol i gyfeiriad cyhoeddwyr. Mae’n galw ar y Comisiwn Ewropeaidd i weithio gyda’r sectorau prifysgol ac ymchwil cyhoeddus, cyllidwyr, cyhoeddwyr ac awduron i ddatblygu modelau a datrysiadau ar gyfer cefnogi cyhoeddi mynediad agored yn gynaliadwy, drwy lwybrau Mynediad Agored Aur a Gwyrdd, ond gan ganiatáu i gyhoeddwyr masnachol gynnal enillion hyfyw yr un pryd. Yn benodol, mae’r datganiad yn galw ar Lywyddiaeth arfaethedig yr Iseldiroedd o’r Comisiwn Ewropeaidd rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2016 i alw’r holl bartïon â diddordeb at ei gilydd i ddatblygu ffordd ymlaen fyddai’n dderbyniol i’r holl bartïon ar sail ryngwladol.

Gellir gweld datganiad lawn LERU, "Christmas is over. Research funding should go to research, not to publishers!" yma.


Monday, 12 October 2015

Tachwedd 30ain – Dyddiad cau Rhestrau Darllen Aspire Semester 2

Mae staff y Llyfrgell yn prynu llyfrau ac yn awr yn digideiddio ar gyfer modiwlau sy’n cael eu dysgu yn Semester Dau 2015-16.

Rhaid ychwanegu eich Rhestrau Darllen i Aspire ar gyfer modiwlau sy’n cael eu dysgu yn Semester 2 (neu sy’n cael eu dysgu dros y ddau semester) a rhaid diweddaru ac ail-gyhoeddi rhestrau Aspire cyfredol erbyn diwedd Tachwedd neu ni fydd modd gwarantu y bydd deunydd Llyfrgell a dogfennau wedi eu digideiddio ar gael mewn da bryd ar gyfer dysgu.

Os gwelwch yn dda cysylltwch â’ch llyfrgellydd pwnc os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â hyn.Efallai bydd y dolenni isod o ddefnydd:Os gwelwch yn dda cysylltwch â’ch llyfrgellydd pwnc neu’r tîm Gwasanaethau Academaidd acastaff@aber.ac.uk 01970621896 os ydych am hyfforddiant neu sesiwn ddiweddaru. Rydym yn hapus i ymweld â chi ar adeg a lle sy’n gyfleus i chi.

Monday, 7 September 2015

Cwrdd â'ch Llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd #14



Lloyd ydw i, a fi yw'r Llyfrgellydd Pwnc newydd i'r Ysgol Gelf;  y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd; Hanes a Hanes Cymru, a'r Gyfraith a Throseddeg.  Ymunais â'r Gwasanaethau Gwybodaeth ar ôl gorffen fy PhD mewn Casgliadau Llyfrgellol Digidol a Hanes Celf gyda'r Ysgol Gelf ac Adran Ymchwil Llyfrgell Genedlaethol Cymru.  Hanes Celf ym Mhrifysgol Nottingham oedd fy ngradd gyntaf, ac wedyn fe ges i MSc mewn Rheoli Gwybodaeth a Llyfrgelloedd o Brifysgol Gorllewin Lloegr.   Yn y cyfamser, rwy wedi gweithio mewn sawl gwahanol fath o lyfrgell, gan gynnwys Llyfrgell y Sefydliad Uwch Astudiaethau Cyfreithiol ym Mhrifysgol Llundain; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; llyfrgell Sefydliad Celf Courtauld; a changhennau llyfrgelloedd cyhoeddus Casnewydd.  

Efallai y daeth fy awydd i roi trefn ar anhrefn o'm casgliad anhylaw a rhy fawr o recordiau.  Dechreuais gasglu pan roddodd fy mam-gu'r record 7” Don’t Believe the Hype gan Public Enemy  imi pan oeddwn tua 12 oed.  Er fy mod i'n hoffi meddwl bod fy Nana yn edmygwr brwd o rap gwleidyddol arfordir dwyrain America mewn gwirionedd dim ond stoc oedd heb ei gwerthu oedd hi o'i siop gerddoriaeth, sef siop fendigedig Falcon Music yn Llanelli.   Roeddwn i'n gweithio yn y siop pan oeddwn ychydig yn hŷn; roedd y siop yn gwerthu offerynnau yn hytrach na recordiau erbyn hynny.  Gweithio yn siop gitarau'ch mam-gu yw'r swydd Sadwrn fwyaf cwl y gallwch ei chael.    

Am ragor o wybodaeth am bwysigrwydd cynnal casgliad mawr o recordiau rhyfedd ac er mwyn ymarfer eich sgiliau gwybodaeth/llythrennedd digidol, chwiliwch am Wax Trash and Vinyl Treasures: Record Collecting as a Social Practice gan Roy Shuker, sydd ar gael yn Llyfrgell Hugh Owen ar fformatau papur ac electronig.  

Er mwyn dysgu sut mae rhoi hypergyswllt yn uniongyrchol i gofnod unigol yn Primo, gweler y Cwestiwn Cyffredin hwn.

Thursday, 3 September 2015

Canllawiau Ar-lein ar y Llyfrgelloedd a TG i Fyfyrwyr Newydd

I helpu'r myfyrwyr newydd i ymgyfarwyddo â'n hadnoddau llyfrgell a TG cyn iddynt gyrraedd y campws, rydym wedi llunio canllawiau ar-lein newydd i roi braslun o'r gwasanaethau sydd ar gael. 
Mae'r cyflwyniad ar-lein yn cynnwys rhannau ar:
  • Defnyddio ein llyfrgelloedd a'u hamseroedd agor a'u hadnoddau
  • Yr offer sydd ar gael ar gyfer astudio, gan gynnwys ebost, llwyfan Blackboard a'r cyswllt diwifr
  • Sut i argraffu a llungopïo
  • Sut i ddod o hyd i adnoddau'r llyfrgelloedd
  • Sut i gysylltu â ni.
Mae hefyd holiadur byr i'r defnyddwyr ei gwblhau ar ddiwedd y cyflwyniad er mwyn rhoi prawf ar faint a wyddent am ein gwasanaethau.
Mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth hefyd yn cynnig teithiau o'r llyfrgell yn ystod Wythnos y Glas. Fe'u cynhelir ar yr awr rhwng 11 y bore a 3 y prynhawn yn Llyfrgell Hugh Owen. Rydym yn argymell bod pob myfyriwr newydd yn dod ar un o'r teithiau hyn er mwyn cael dealltwriaeth ymarferol o'r adnoddau sydd gan y llyfrgell i'w cynnig.

Ewch i’r canllaw cynefino arlein a’r fersiwn hygyrchu