Thursday 29 October 2015

Datganiad Mynediad Agored Cynghrair Prifysgolion Ymchwil Ewrop (LERU)

Cyhoeddodd Cynghrair Prifysgolion Ymchwil Ewrop (LERU) ddatganiad newydd ar fynediad agored ar 12 Hydref 2015 yn galw ar i gyllid ymchwil ganolbwyntio ar ymchwil, yn hytrach na chael ei ddargyfeirio’n ormodol i gyfeiriad cyhoeddwyr. Mae’n galw ar y Comisiwn Ewropeaidd i weithio gyda’r sectorau prifysgol ac ymchwil cyhoeddus, cyllidwyr, cyhoeddwyr ac awduron i ddatblygu modelau a datrysiadau ar gyfer cefnogi cyhoeddi mynediad agored yn gynaliadwy, drwy lwybrau Mynediad Agored Aur a Gwyrdd, ond gan ganiatáu i gyhoeddwyr masnachol gynnal enillion hyfyw yr un pryd. Yn benodol, mae’r datganiad yn galw ar Lywyddiaeth arfaethedig yr Iseldiroedd o’r Comisiwn Ewropeaidd rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2016 i alw’r holl bartïon â diddordeb at ei gilydd i ddatblygu ffordd ymlaen fyddai’n dderbyniol i’r holl bartïon ar sail ryngwladol.

Gellir gweld datganiad lawn LERU, "Christmas is over. Research funding should go to research, not to publishers!" yma.


Mae llawer o gyllidwyr ymchwil rhyngwladol bellach yn gosod gofynion lledaenu mynediad agored ar gyhoeddiadau a data fel amod ar gyfer derbyn cyllid ymchwil parhaus a newydd. Ymhellach, yn yr ymgynghoriad diweddar ar ddatblygiadau Science 2.0 (Gwyddoniaeth Agored) https://ec.europa.eu/research/consultations/science-2.0/science_2_0_final_report.pdf gan y Comisiwn Ewropeaidd, roedd 63% o’r rhai a ymatebodd yn teimlo bod mwy o gytundeb rhyng-sector ar ymyriadau mynediad agored yn hanfodol er mwyn sicrhau cynnydd.

Mae LERU yn galw ar yr holl brifysgolion, sefydliadau ymchwil, cyllidwyr ymchwil ac ymchwilwyr i lofnodi’r datganiad, gan sicrhau datganiad clir o gefnogaeth i ddatblygu datrysiad cyffredin i ddeddfwriaethau Ewropeaidd a rhyngwladol. Nod y datganiad newydd hwn yw datblygu symudiad o ran momentwm mynediad agored yn Ewrop drwy gael yr holl bartïon i gydweithio i ddyfeisio model mynediad agored economaidd a allai dyfu. Cefnogir y cynigion gan y Comisiynydd Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil, Gwyddoniaeth ac Arloesi, Carlos Moedas a Llywyddiaeth arfaethedig yr Iseldiroedd o’r UE.

Gan edrych yn ddyfnach, mae LERU’n nodi bod costau Taliadau Prosesu Erthygl Aur fel arfer yn is mewn cyfnodolion mynediad agored penodol na mewn cyfnodolion hybrid mynediad agored/ tanysgrifio ac mae’n holi pam fod y gwahaniaeth hwn yn bodoli. Mae’n galw am lwybr trawsnewid mynediad agored yn y dyfodol lle mae pennu a dyrannu costau mynediad agored yn deg ac yn dryloyw.

Gellir dilyn y drafodaeth a ddeilliodd o’r datganiad ar Twitter: #christmasisover 

Steve Smith
28 Hydref 2015

No comments: