Eleni bydd cyfres o erthyglau yn ymddangos ar ein gwefan yn cyflwyno aelodau o dîm y Gwasanaethau Academaidd
Dan Smith
Myfyriwr Graddedig dan Hyfforddiant yn y Llyfrgell 2013/14
Fi yw Dan Smith ac rwy’n ffurfio 50% o’r Myfyrwyr Graddedig dan Hyfforddiant yn y Llyfrgell a
gyflogir gan y Gwasanaethau Gwybodaeth ar gyfer blwyddyn academaidd 2013/14. Mae fy amser yn cael ei rannu rhwng pedair adran/pedwar tîm yn y llyfrgell; Rheoli Adnoddau, Caffaeliadau a Chasgliadau, Gwasanaethau Academaidd, Benthyca ac E-Wasanaethau a Chyfathrebu. Mae hyn yn rhoi cyfle i mi gael amrywiaeth eang o brofiad ymarferol o’r modd y caiff llyfrgell academaidd ei rhedeg o ddydd i ddydd, gan roi i’r llyfrgell unigolyn dibrofiad i geisio ei hyfforddi.
Ar ôl i’m profiad cyntaf o fyd addysg ddod i ben pan oeddwn yn ddeunaw oed, gweithiais i’r llywodraeth leol ac roeddwn yn rhan o’r gwaith o weinyddu hyfforddiant athrawon ledled Powys. Ar ôl rhai blynyddoedd o drefnu hyfforddiant i eraill, dechreuais feddwl am ddychwelyd at addysg fy hun. O’r diwedd penderfynais geisio dod o hyd i yrfa a fyddai’n fy ngalluogi i drefnu a didoli pethau, felly llyfrgellydd amdani.
Thursday, 4 July 2013
Tuesday, 4 June 2013
Cyfarfod Ymchwil ar y cyd rhwng y Sefydliad Astudiaethau Cyfreithiol Uwch a Phrifysgol Bangor
Adborth
gan fyfyrwyr.
“Mae’r myfyrwyr yn dal i sôn amdano ac yn dweud cymaint wnaethon nhw fwynhau eu hymweliad a’r croeso gawson nhw. Unwaith eto, diolch [i Lillian Stevenson Rheolwr Gwasanaethau Academaidd/llyfrgellydd y Gyfraith] am drefnu’r digwyddiad.”
Thursday, 16 May 2013
Treial Adnodd newydd – Adroddiadau Cyfraith ICLR
Gallwch cael gafael ar yr adroddiadau ar y campws drwy fynd i http://www.iclr.co.uk/ yna cliciwch ar y botwm coch 'Go to ICLR Online' ar frig y gornel dde. Ceir mynediad oddi ar y campws drwy VPN
Mae’r Llyfrgell am eich adborth ar yr adnodd hwn. Os gwelwch yn dda e-bostiwch eich sylwadau at Lillian Stevenson lis@aber.ac.uk
Tuesday, 7 May 2013
Ffynonellau ar gyfer Crysiau: Drama Online
Yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer myfyrwyr Drama a Saesneg, mae Drama Online yn gasgliad o ddramâu sy'n cynnwys gwybodaeth cyd-destunol a nifer o offer ar-lein unigryw a all eich helpu gydag astudiaeth fanwl.
Ochr yn ochr â chasgliad sylweddol o weithiau dramatig, mae'r wefan yn cynnig arweiniad arbenigol ar ffurf nodiadau ysgolheigaidd, gwybodaeth cyd-destunol, a throsolwg o'r prif gysyniadau a’r materion sy’n cael eu harchwilio. Mae'r ystod eang o destunau dramatig ar y safle yn cael eu darparu gan Bloomsbury mewn partneriaeth â Methuen Drama, Faber and Faber, ac Arden Shakespeare.
Yn ogystal mae gan rhai o’r dramâu ddelweddau perthnasol a lluniau cynhyrchu llonydd, ac mae pob drama yn chwiliadwy er mwyn hwyluso’r broses o we-lywio a chael gafael ar ddarnau penodol. Mae pob testun hefyd yn cynnwys dyfyniad sy’n hawdd ei allforio, ac wedi ei gyflwyno mewn fformat clir a hygyrch sy'n gwneud darllen yn bleser.
Mae'r tanysgrifiad hefyd yn cynnwys dau offer ar-lein soffistigedig, sy’n darparu amgylchedd ddigidol blaengar er mwyn eich cynorthwyo i ymgysylltu â'r dramâu yn fwy dwfn.
Wednesday, 1 May 2013
Cyfarfod Ymchwil ar y cyd rhwng y Sefydliad Astudiaethau Cyfreithiol Uwch a Phrifysgol Bangor
Bwriad: Cyfarfod hanner diwrnod i ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor sydd â diddordeb yn y gyfraith, troseddeg a chysylltiadau rhyngwladol.
Lleoliad: Prifysgol Aberystwyth; E3 Canolfan Ymarfer y Gyfraith, Adeilad Hugh Owen
Dyddiad: Prynhawn dydd Mercher 17 Ebrill
Amser Digwyddiad
12.45 Lluniaeth wrth gyrraedd – Ystafell Gynhadledd y Gyfraith
1.15 Richard Ireland, Darlithydd Hŷn Y Gyfraith a Throseddeg a Bill Hines, Cymrawd er Anrhydedd a chyn Lyfrgellydd y Gyfraith yn Aberystwyth – sylwi i rai o drysorau llai hysbys ac adnoddau ymchwil a gedwir yn Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth.
2.00 - 3.00 Sefydliad Astudiaethau Cyfreithiol Uwch – arddangos eu gwasanaethau ac adnoddau i ymchwilwyr, gan gynnwys:
3.15 Taith o gwmpas Llyfrgell y Gyfraith ac adnoddau llyfrgell Prifysgol Aberystwyth (Lillian Stevenson, Rheolwr Gwasanaethau Academaidd/ Llyfrgell y Gyfraith) i’n hymwelwyr o Brifysgol Bangor.
Lleoliad: Prifysgol Aberystwyth; E3 Canolfan Ymarfer y Gyfraith, Adeilad Hugh Owen
Dyddiad: Prynhawn dydd Mercher 17 Ebrill
Rhaglen y digwyddiadau
Amser Digwyddiad
12.45 Lluniaeth wrth gyrraedd – Ystafell Gynhadledd y Gyfraith
1.15 Richard Ireland, Darlithydd Hŷn Y Gyfraith a Throseddeg a Bill Hines, Cymrawd er Anrhydedd a chyn Lyfrgellydd y Gyfraith yn Aberystwyth – sylwi i rai o drysorau llai hysbys ac adnoddau ymchwil a gedwir yn Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth.
2.00 - 3.00 Sefydliad Astudiaethau Cyfreithiol Uwch – arddangos eu gwasanaethau ac adnoddau i ymchwilwyr, gan gynnwys:
- Datblygu porth Eagle-I ar wefan y Sefydliad i gyfeirio ymchwilwyr at adnoddau o safon ar y rhyngrwyd
- Adnoddau cyfreithiol tramor, rhyngwladol a chymharol yn Llyfrgell y Sefydliad: arweiniad i’n casgliadau print ac electronig
- Llyfrgell y Gyfraith Electronig y Sefydliad: amlinelliad i’r cronfeydd data niferus sydd ar gael yn fewnol ac oddi allan
- Rhagoriaethau defnyddio’r Sefydliad i ymchwilwyr
- BAILI: y British and Irish Legal Information Institute
3.15 Taith o gwmpas Llyfrgell y Gyfraith ac adnoddau llyfrgell Prifysgol Aberystwyth (Lillian Stevenson, Rheolwr Gwasanaethau Academaidd/ Llyfrgell y Gyfraith) i’n hymwelwyr o Brifysgol Bangor.
Tuesday, 23 April 2013
Ffynonellau ar gyfer Cyrsiau: Papurau Newydd Cymru ar-lein
Mae'r adnodd ar-lein hyblyg hwn yn eich galluogi i ddarganfod miliynau o erthyglau sydd yng nghasgliad cyfoethog o bapurau newydd hanesyddol y Llyfrgell Genedlaethol. Mae modd ichi chwilio a chael mynediad i dros 250,000 o dudalennau 24 papur newydd gwahanol hyd at 1910.
Mae papurau newydd yn cynrychioli ffynhonnell bwysig iawn ar gyfer astudio hanes diweddar, ac mae'r prosiect hwn yn galluogi mynediad hawdd i dros 600,000 o dudalennau yn rhad ac am ddim.
Subscribe to:
Posts (Atom)
