Eleni bydd cyfres o erthyglau yn ymddangos ar ein gwefan yn cyflwyno aelodau o dîm y Gwasanaethau Academaidd
Dan Smith
Myfyriwr Graddedig dan Hyfforddiant yn y Llyfrgell 2013/14
Fi yw Dan Smith ac rwy’n ffurfio 50% o’r Myfyrwyr Graddedig dan Hyfforddiant yn y Llyfrgell a
gyflogir gan y Gwasanaethau Gwybodaeth ar gyfer blwyddyn academaidd 2013/14. Mae fy amser yn cael ei rannu rhwng pedair adran/pedwar tîm yn y llyfrgell; Rheoli Adnoddau, Caffaeliadau a Chasgliadau, Gwasanaethau Academaidd, Benthyca ac E-Wasanaethau a Chyfathrebu. Mae hyn yn rhoi cyfle i mi gael amrywiaeth eang o brofiad ymarferol o’r modd y caiff llyfrgell academaidd ei rhedeg o ddydd i ddydd, gan roi i’r llyfrgell unigolyn dibrofiad i geisio ei hyfforddi.
Ar ôl i’m profiad cyntaf o fyd addysg ddod i ben pan oeddwn yn ddeunaw oed, gweithiais i’r llywodraeth leol ac roeddwn yn rhan o’r gwaith o weinyddu hyfforddiant athrawon ledled Powys. Ar ôl rhai blynyddoedd o drefnu hyfforddiant i eraill, dechreuais feddwl am ddychwelyd at addysg fy hun. O’r diwedd penderfynais geisio dod o hyd i yrfa a fyddai’n fy ngalluogi i drefnu a didoli pethau, felly llyfrgellydd amdani.
Dychwelais at addysg yn 2010, pan symudais i Aberystwyth i astudio yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth. Cwblheais fy ngradd israddedig mewn Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth yn 2013 ac roedd rhan o’r radd yn cynnwys mis o leoliad gwaith yn adran Gwasanaethau Gwybodaeth Aberystwyth. Ar ôl mis o leoliad gwaith methodd y llyfrgell gael gwared ohonof, oherwydd arhosais i weithio fel gweithiwr achlysurol yn y llyfrgell, yn gweithio ar y ddesg ac yn llenwi’r silffoedd gyda’r nos ac ar y penwythnosau ynghyd â bod yn rhan o’r tîm Rheoli Casgliadau fel symudwr pethau trwm achlysurol.
Y tu allan i’m gwaith rwy’n dipyn o gic o ran fy niddordebau, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys llawer gormod o benodau o ‘Adventure Time’ nag sy’n ddoeth. Wedi dweud hynny, rwyf wedi bod i ddosbarthiadau crefft ymladd yn achlysurol ac rwyf hyd yn oed yn mentro i’r gampfa o dro i dro.
No comments:
Post a Comment