Friday, 14 July 2017

Y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Ymchwil ac Arloesedd – Adroddiad y Grwp Arbenigol ar Altimetrigau


Sefydlwyd Grwp Arbenigol ar Altimetrigau y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Ymchwil ac Arloesedd i ystyried sut i ddatblygu metrigau (altimetrigau) cyhoeddi ar lefel Erthyglau yng nghyd-destun yr agenda mynediad agored, i adolygu gwahanol fesurau’n ymwneud ag altimetrigau mewn perthynas â dulliau mwy sefydledig o fesur allbwn ymchwil; sut i gael gwared â’r rhwystrau presennol sy’n atal ymchwil agored/ gwyddoniaeth agored; ac argymell fframwaith i helpu i ymgorffori ymchwil agored i’r diwylliant academaidd. Mae eu hadroddiad "Next-Generation Metrics: Responsible metrics and Evaluation for Open Science" yn argymell y dylai’r Comisiwn Ewropeaidd ddarparu canllawiau clir ar gyfer defnydd cyfrifol o fertigau i gefnogi ymchwil agored yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf (FP9); y dylid ymchwilio i’r potensial ar gyfer gêm-dwyllo unrhyw altimetrigau newydd arfaethedig ar gyfer FP9, cyn eu cyflwyno ac y dylid cynnwys mecanweithiau gwobrwyo priodol wrth roi egwyddorion ymchwil agored ar waith yn FP9.

Hefyd taw y dylai’r weledigaeth ar gyfer y Cwmwl Gwyddoniaeth Agored Ewropeaidd fabwysiadu ORCID fel ei ddynodwr ymchwil safonol, ac y dylai’r agenda ymchwil agored gael ei ddatblygu yn yr Undeb Ewropeaidd gan Fforwm Ewropeaidd ar gyfer Metrigau’r Genhedlaeth Nesaf, yn gweithio gyda’r Llwyfan Polisi Gwyddoniaeth Agored Ewropeaidd.  (20 Mawrth)

No comments: