Mae European Sources Online yn gronfa ddata ar-lein eang sy’n rhan o Ganolfan Ddogfennau Ewropeaidd y Brifysgol.
Mae’n rhoi mynediad i’r wybodaeth ddiweddaraf am yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys dogfennau cynradd a swyddogol am bolisïau, sefydliadau a gwledydd.
Mae’r gronfa ddata ESO hefyd yn rhoi mynediad i;
• Filoedd o gofnodion ystadegol a dogfennau dethol am yr UE
• Dolenni gwe, erthyglau newyddion a chyhoeddiadau am yr UE
• Cofnodion llyfryddiaethol ar gyfer erthyglau mewn cyfnodolion a thestunau academaidd pwysig
• Canllawiau Gwybodaeth Unigryw sy’n ymchwilio i bynciau allweddol o fewn Ewrop
• Gwybodaeth am faterion presennol a blaenorol sy’n effeithio ar ddinasyddion yr UE
Gellir cael mynediad i European Sources Online o rwydwaith y Brifysgol ar http://www.europeansources.info/search.jsp
I gael rhagor o wybodaeth, mae tudalen Cwestiynau Cyffredin European Sources Online ar gael ar http://www.europeansources.info/about.jsp
Os ydych chi eisiau mynediad i European Sources Online oddi ar y campws, rhaid i chi gysylltu drwy VPN y Brifysgol: https://www.aber.ac.uk/cy/is/it-services/vpn/
No comments:
Post a Comment