Thursday, 20 April 2017

Adnodd y Mis: Nexis

• Mae Nexis yn gronfa ddata testun-llawn ar-lein sy’n chwilio papurau newydd rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang o dros 100 o wledydd, cylchgronau masnach busnes a diwydiant, newyddion busnes a gwybodaeth am gwmnïau.

•Caiff yr adnodd ei ddefnyddio’n aml i gynorthwyo busnesau oherwydd ei fod yn rhoi cipolwg ar dros 30,000 o ffynonellau gwybodaeth gwerthfawr a dibynadwy am fusnes a newyddion. Mae’r rhain yn amrywio o erthyglau newyddion byd-eang, i gofnodion cwmnïau a gwybodaeth gyfreithiol ychwanegol.

Pam mae’r adnodd yn ddefnyddiol i fyfyrwyr;

• Mae Nexis o gymorth i baratoi ar gyfer cyfweliadau swyddi a gyrfaoedd – gellir defnyddio’r gronfa ddata i gael gwybodaeth am eraill o fewn y farchnad swyddi gyfredol. Mae hyn o ganlyniad i’r gallu i fonitro a chael gwybodaeth hanfodol am gwmnïau penodol a sectorau gwaith.

• Gellir ei ddefnyddio i gynorthwyo ymchwil ar gyfer aseiniadau a thraethodau estynedig – mae’r gronfa ddata eang yn caniatáu i ddefnyddwyr ymchwilio a chyfeirio at ffynonellau newyddion cymeradwy, ystadegau busnes a chyfeiriadau llyfryddiaethol o fewn eu gwaith.

Gellir defnyddio’r gwahanol fathau o ddogfennau yn yr adnodd hwn i gynorthwyo ymchwil i amrywiaeth eang o bynciau gradd – dyma’r prif fathau o ddogfennau sydd ar gael;

Ffynonellau newyddion Prydeinig a rhyngwladol
Cyhoeddiadau busnes a masnach
Proffiliau cwmnïau
Adroddiadau cwmnïau, gwledydd a diwydiannau
Gwybodaeth am farchnadoedd
Data bywgraffyddol
Ffynonellau marchnadoedd rhyngwladol a’r rhai sy’n datblygu
Cofnodion cyhoeddus o’r Unol Daleithiau
Gwybodaeth gyfreithiol

Cewch fynediad i Nexis o rwydwaith y Brifysgol yn: https://www.nexis.com/home/home.do?randomNum=0.6811372427443615

Os ydych chi’n defnyddio Nexis oddi ar y campws, cysylltwch drwy VPN y Brifysgol: https://www.aber.ac.uk/en/is/it-services/vpn/

Ceir adnoddau hyfforddi Nexis gan gynnwys tiwtorial fideo a chanllawiau y gellir eu lawrlwytho yma: http://help.bisuktraining.lexisnexis.co.uk/about-nexis

Cysylltwch ag acastaff@aber.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu arddangosiad.

No comments: