Mae Prifysgol Aberystwyth wedi prynu IBISWorld yn ddiweddar
Mae IBISWorld yn darparu data diwydiannol i dros 400 diwydiant ym Mhrydain gyda chwilotydd ac adroddiadau sy’n hawdd eu defnyddio.
Mae’r adnodd hwn yn ddefnyddiol i bawb sy’n ;
• Paratoi ar gyfer cyfweliad / llwyddiant mewn swydd– Dewch i wybod mwy am y sector o’r diwydiant y mae’r cwmni’n gweithio ynddo, y gystadleuaeth, y chwaraewyr mawr yn y maes, a chael gwell dealltwriaeth o waith y diwydiant hwnnw.
• Ymchwil ar gyfer aseiniadau / traethawd hir – Mae IBISWorld yn darparu yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn deall yr amodau gweithredu, a rhagolygon tymor hir diwydiannau mawr a diwydiannau arbenigol.
• Ystadegau Diwydiant –Mae’r adroddiadau diwydiant yn darparu data a dadansoddiad ar bob diwydiant ac yn cael eu hegluro gyda graffiau clir a siartiau data. Gall y siartiau data gael eu trosglwyddo i Excel yn rhwydd, ac mae’r data’n ddelfrydol ar gyfer dadansoddiad SWOT, PESTLE, a Phum Llu Porter.
Mae pob adroddiad diwydiant yn darparu;
• Data perfformio manwl a dadansoddiad o’r farchnad
• Gwybodaeth am y gadwyn gyflenwi
• Cryfderau a gwendidau gweithredu
• Sbardunau allanol
• Strategaethau marchnad y chwaraewyr mawr
• Elw’r diwydiant
• Meincnodau strwythur cost
Gweler IBISWorld ar-lein; www.ibisworld.co.uk (Nid oes angen cyfrinair os ydych yn cysylltu â’r wefan trwy rwydwaith y brifysgol)
Gweler sesiynau tiwtora fideo yma: http://clients1.ibisworld.co.uk/about/uk/tutorials/
Os ydych am ddefnyddio IBISWorld pan nad ydych ar y campws, cysylltwch trwy rwydwaith Preifat Rhithiwr y Brifysgol https://www.aber.ac.uk/en/is/it-services/vpn/
No comments:
Post a Comment