Ar ôl ymgynghori â grwpiau ffocws myfyrwyr, penderfynwyd i ailgynllunio Primo i’w wneud yn dudalen
lanach, sy’n haws i’w ddefnyddio drwy ffonau symudol, gyda dolenni i’r prif
ffynonellau a ffurflenni cais wedi’u gosod gyda’i gilydd ar faner felen y dudalen,
yn ogystal â chymorth a chyngor hwylus a gwybodaeth am gyrsiau hyfforddi.
Bydd chwiliadau casgliadau Aber yn chwilio
drwy gasgliadau holl lyfrgelloedd y Brifysgol, a fydd yn eich galluogi i
fanteisio ar adnoddau na fyddech yn ymwybodol ohonynt fel arall o bosib. Fel
arfer, bydd modd i chi fireinio eich canlyniadau yn ôl lleoliad ar ôl y
chwiliad cychwynnol.
Newid y
llwybrau at adnoddau gwybodaeth electronig
Bydd y ddolen Cronfeydd Data A-Z yn cael ei disodli
gan y ddolen E-adnoddau A-Z, sef rhestr o adnoddau gwybodaeth electronig yn
nhrefn yr wyddor.
Mae’r ddolen i’w
chael ar y faner felen, ar bwys E-journals@aber lle y gallwch chwilio a phori drwy
ddaliadau cyfnodolion electronig Prifysgol Aberystwyth.
D.S. ni fydd yr holl dudalennau gwe sydd ar gael drwy Cronfeydd
data A-Z yn cael eu cynnwys yn E-Adnoddau A-Z.
Bydd adnoddau
gwybodaeth electronig ar gyfer pynciau penodol hefyd yn cael eu hyrwyddo drwy’r
tudalennau Gwybodaeth pwnc.
Ni fydd y
chwiliad “Cronfeydd data dethol” yn Cronfeydd data A-Z ar gael o hyn
ymlaen. Serch hynny, mae’r chwiliad Erthyglau a mwy yn dychwelyd
canlyniadau o filoedd lawer o adnoddau gwybodaeth electronig y gallwch eu
storio ar eich E-silff.
Os oes gennych un
neu fwy o setiau o gronfeydd data wedi’u storio yn Cronfeydd data A-Z, a’ch
bod eisiau gwneud cofnod ohonynt cyn i’r ddolen Cronfeydd Data A-Z gael
ei disodli, cofiwch sicrhau eich bod yn gwneud hynny cyn 31 Mai.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r newidiadau
hyn, cysylltwch â’ch llyfrgellydd pwnc
neu acastaff@aber.ac.uk 01970 621896.
No comments:
Post a Comment