Mae safonau’r gwasanaeth a gynigir i awduron gan y cyhoeddwyr Mynediad Agored Aur newydd yn cymharu’n dda â’r gwasanaeth a gynigir gan y cyhoeddwyr tanysgrifio traddodiadol sy’n cynnig dewisiadau mynediad agored “hybrid”. Mesurwyd pa mor ddibynadwy ac agored yw erthyglau unigol, rhychwant y trwyddedau ailddefnyddio mynediad agored sydd ar gael a’r Tâl Prosesu Erthygl a godir, a gwelwyd eu bod oll yn well ym marchnad bwrpasol mynediad agored.
Asesir nad oes modd ‘cynnal’ na ‘dringo’ y “cynigion gwrthbwyso” (offset deals) a gynigir gan gyhoeddwyr tanysgrifio traddodiadol, sef bod y taliadau APC a godir ar sefydliadau’r awduron yn cael eu cydbwyso yn erbyn ffioedd tanysgrifio, fel nad yw cyfanswm y taliadau a wneir gan brifysgolion ar gyfer cyhoeddi mewn cyfnodolyn penodol a thanysgrifio iddo yn codi yn anghymesur drwy “drochi ddwywaith”. Mae’r baich gweinyddol y mae systemau gwrthbwyso o’r fath yn ei roi ar gyhoeddwyr a sefydliadau academaidd yn cael ei ystyried yn arwyddocaol ac yn gymhlethu diangen ar strwythur y farchnad mynediad agored.
Mae sylw hefyd i effaith cymalau ‘ni ellir canslo’ wrth danysgrifio i “gynigion mawr” cyhoeddwyr tanysgrifio yn gyson yn gwasgu cyhoeddwyr llai allan o’r farchnad cyfnodolion yn gyfan gwbl, a cheir sôn yn benodol am effeithiau gor-grynhoi yn y sector cyhoeddi academaidd, cyfyngu ar amrywiaeth y cyfnodolion sydd ar gael, a gostyngiad yn y cyllid ar gyfer prynu testunau israddedig.
Er gwaethaf yr holl fanteision hyn, serch hynny, mae cynnydd tuag at fynediad agored yn y Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn arafach nag y gellid bod wedi disgwyl, gyda dros 60% o ymchwil yn y DU yn dal i fod y tu ôl i rwystrau tanysgrifiad yn 2015 yn ôl y Rhwydwaith Gwybodaeth Ymchwil gan arwain o bosibl at golli cyfleoedd masnachol a chyfyngu ar effaith academaidd y Deyrnas Unedig.
Ceir sylwadau hefyd ynghylch y ffaith mai’r Deyrnas Unedig a’r Iseldiroedd yw’r unig wledydd hyd yma i flaenoriaethu llwybr Mynediad Agored Aur, gyda’r rhan fwyaf o wledydd eraill a sefydliadau rhyngwladol yn ffafrio llwybr Mynediad Agored Gwyrdd o adneuo fersiynau ar ôl argraffu neu fersiynau terfynol dan embargo mewn cadwrfeydd pwnc neu sefydliadol. Mae cyhoeddi academaidd wir yn farchnad ryngwladol ac os bydd y farchnad Mynediad Agored Aur yn gyfyngedig i ddwy neu dair gwlad yn unig, bydd ei siawns o ymdreiddio i farchnad fyd-eang yn parhau i fod yn fach a’r cynnydd yn araf.
I gloi, mae’r adroddiad yn argymell nifer o strategaethau er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg treiddiad i’r farchnad Mynediad Agored Aur, gan gynnwys:
- cyfyngu ar y graddau y gellir defnyddio grantiau Mynediad Agored yr RCUK ar gyfer cyhoeddi mewn cylchgronau hybrid,
- datblygu dangosyddion ansawdd gwell ar gyfer cyfnodolion i annog awduron i gyhoeddi mwy o’u papurau pwysig mewn cyfnodolion Mynediad Agored Aur pwrpasol,
- a sicrhau bod cyhoeddwyr cymdeithasau bach yn cael mecanweithiau effeithiol i aros yn y farchnad gyhoeddi Mynediad Agored.
Gellir gwneud sylwadau ar Twitter drwy ddefnyddio #OAjournalsmarket
Steve Smith
Grwp Cysylltiadau Academaidd
Llyfrgell Hugh Owen
No comments:
Post a Comment