mynediad am ddim, ar-lein i ganlyniadau ymchwil ysgolheigaidd, a’r hawl i ddefnyddio ac ailddefnyddio’r canlyniadau hynny.
Mae gan Fynediad Agored y grym i drawsnewid y ffordd y mae ymchwil ac ymchwiliadau gwyddonol yn cael eu cyflawni, gan fod noddwyr ymchwil a
Chynghorau Cyllido fel ei gilydd wedi lansio polisïau Mynediad Agored yn ddiweddar.
Nid yw gweithredu Mynediad heb ei broblemau, fodd bynnag. Mae gweithgor Mynediad Agored Prifysgol Aberystwyth, sef cydweithredu rhwng y Gwasanaethau
Gwybodaeth a’r Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi, yn gwahodd academyddion ac ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth i gyfres o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos
Mynediad Agored. Ymhlith y digwyddiadau fydd:
• Sesiwn Holi ac Ateb gyda Chynghorydd Polisi Addysg Uwch CCAULl, Ben Johnson, a chynrychiolwyr o’r gymuned gyhoeddi, PLOS, JISC Monographs, BioMedCentral a Wiley – Sinema Canolfan y Celfyddydau, bore Gwener 24 Hydref, 9.30 o'r gloch
• Sesiynau diweddaru hyfforddiant PURE, 12 o’r gloch, ddydd Mercher 22 a dydd Iau 23 Hydref, Ystafell Hyfforddi Hugh Owen. Gellir neilltuo lle drwy
wefan y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd.
• “Who owns what and what can they do with it? Copyright and your research publications workshop” (dydd Mawrth, 21 Hydref, 1-2 o'r gloch) gyda Rheolwr Gwarchod Data a Hawlfraint Prifysgol Aberystwyth, Dr Jonathan Davies; anfonwch neu dewch â chytundebau trwydded/hawlfraint y gofynnwyd ichi eu llofnodi wrth gyhoeddi erthyglau. Anfonwch
drwyddedau (neu giplun o drwyddedau) a’ch cwestiynau at openaccess@aber.ac.uk
Steve Smith
No comments:
Post a Comment