Yn rhan o’u strategaeth barhaus i adeiladu casgliadau, mae llyfrgell Prifysgol Aberystwyth wedi buddsoddi yn ebrary, gan ychwanegu 84,000 o deitlau at y daliadau blaenorol o e-lyfrau. Mae casgliad ebrary yn cynnwys fersiynau electronig o’r llyfrau sydd eisoes ar y silffoedd, yn ogystal â dewis eang o eitemau nad oedd ar gael o’r blaen.
Mae rhyngwyneb cyfeillgar a hawdd ei ddefnyddio yn eich galluogi i chwilio’n hawdd am e-lyfr a’i gadw yn eich silff lyfrau eich hun. Mae darllen yr e-lyfr yn hawdd; gallwch lywio’n ddiymdrech drwy’r tabl o gynnwys, neu neidio i rif tudalen, a gellir hefyd chwilio am allweddair. Ceir hefyd offer anodiad ardderchog i’ch galluogi i amlygu, llyfrnodi a gwneud sylwadau y gellir cyfeirio’n ôl atynt yn hawdd drwy gyfrwng tab Nodiadau hwylus.
Gellir cael mynediad uniongyrchol i’r e-lyfrau o Primo pan fo’r dewis Online access yn ymddangos, yn hytrach na mynd yn syth i’r silff, beth am fewngofnodi i Primo a rhoi cynnig ar yr e-fersiwn? Cliciwch ar View Online ac Open source in new window (neu link to e-book os yw’n ymddangos). Gallwch argraffu neu lawrlwytho hyd at 60 o dudalennau teitl. Ceir cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio ac argraffu’r e-lyfrau hyn ar http://www.inf.aber.ac.uk/advisory/faq/1161/. Neu gallwch hefyd gael mynediad i’r e-lyfrau o’r platfform yn uniongyrchol ar http://site.ebrary.com/lib/aber/home.action neu drwy’r ddewislen Cronfeydd data A-Z yn Primo.
No comments:
Post a Comment