Mae amrywiaeth eang o adnoddau gwybodaeth ar-lein diddorol ar gael i unrhyw un sy’n ymweld â Llyfrgell Hugh Owen, nid i staff a myfyrwyr yn unig. Mae 27 o adnoddau gwahanol y gellir cael mynediad atynt ar gyfrifiadur Mynediad Galw-Heibio arbennig ar y llawr gwaelod. Mae’n bleser gennym ddarparu mynediad detholus i’r adnoddau academaidd hyn, adnoddau y byddai’n rhaid talu tanysgrifiad drud ar eu cyfer, diolch i’r telerau a’r amodau o fewn cytundebau trwydded y cyhoeddwyr. Gallwch ymchwilio i amrywiaeth enfawr o wybodaeth gyfredol a hanesyddol, ar gyfer astudio neu er mwynhad.
Os oes gennych ddiddordeb mewn Hanes, mae’r Times Digital Archive, yn rhoi mynediad i gyfrolau llawn o bapur newydd The Times o 1785 (blwyddyn y daith gyntaf mewn balŵn ar draws y Sianel) tan 1985 (blwyddyn y cyngerdd Live Aid a gododd dros £100 miliwn i roi cymorth i’r newynog yn Affrica). Gall chwiliad syml ddod o hyd i amrywiaeth o erthyglau ar y newyddion a barn pobl dros y 200 mlynedd diwethaf, neu’i gyfyngu i chwilio am newyddion ar ddiwrnod penodol. Gallwch bori trwy benawdau a hysbysebion y gorffennol.
Rhowch gynnig ar adnodd hanesyddol arall: Oxford Dictionary of National Biography. Dyma wyddoniadur hawdd i’w ddefnyddio am yr unigolion sydd wedi llunio hanes a diwylliant Prydain, pawb o Julius Caesar i John Lennon. Gellir ei ddefnyddio i chwilio am hanes bywyd ffigwr hanesyddol neu’i ddefnyddio i chwilio am themâu megis Brad y Powdr Gwn neu Ddringwyr Mynydd Everest. Mae’r holl erthyglau wedi’u hysgrifennu gan arbenigwyr yn eu maes, ond maent yn hygyrch i bob oed ac maent yn adnodd hygyrch sy’n egluro pwy oedd pwy trwy gydol hanes Prydain.
Mae Papurau Seneddol Tŷ’r Cyffredin yn cynnwys papurau seneddol sy’n dyddio o’r Ddeunawfed Ganrif, hyd at 2004. Mae hyn yn eich galluogi i bori trwy gasgliad enfawr o ddeunyddiau. Gallwch weld trawsgrifiadau sy’n hawdd eu darllen o ddadleuon sy’n cynnwys gwleidyddion enwog megis Winston Churchill. Yn ogystal â’ch galluogi i ymchwilio i amrywiaeth eang o bynciau, o drafodaethau am y gosb eithaf i greu cwricwlwm yr ysgolion. Ceir rhagor o fanylion am adnoddau Papurau Seneddol Tŷ’r Cyffredin ar ein blog.
Mae amrywiaeth o adnoddau eraill ar gael drwy’r cyfrifiadur Mynediad Galw-Heibio, mae’r rhain yn cynnwys yr Oxford English Dictionary ac adnoddau mwy ysgolheigaidd megis y Cambridge Journals Online a’r Oxford Journals Online.
No comments:
Post a Comment