Nid yw pawb o’r un farn am ddefnyddioldeb ac addasrwydd llyfrau electronig at ddibenion addysgu a dysgu. Dadl y rhai sydd o blaid y dechnoleg newydd yw bod y dyfeisiadau cludadwy hyn yn cynnig ffordd gwahanol a “rhatach” i ddefnyddio adnoddau electronig, yn enwedig yng nghyd-destun dysgu o bell a dysgu yn y gweithle. Gallai hyn fod yn arbennig o berthnasol o ystyried y £4 biliwn o doriad i’r gyllideb addysg uwch a gyhoeddwyd yn adolygiad gwariant 2010.
Ar y llaw arall mae beirniaid yn amlygu’r problemau sy’n gysylltiedig â defnyddio teclynnau darllen e-lyfrau ym myd addysg, megis rheoli hawliau digidol; diogelwch a breuder y dyfeisiadau; cost yr offer, diweddariadau meddalwedd, oes y batris a phrinder gwerslyfrau o safon ar ffurf e-lyfrau. Ym marn y beirniaid hyn mae’r ffactorau uchod yn cyfyngu’n sylweddol ar effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd e-lyfrau at ddibenion academaidd. (Gweler er enghraifft http://www.sconul.ac.uk/publications/newsletter/49/2.pdf ?)
Wedi’u harwain gan y drafodaeth uchod, ac i edrych ymhellach ar briodoldeb ac addasrwydd teclynnau darllen e-lyfrau at ddibenion academaidd, lluniodd y tîm Gwasanaethau Academaidd arddangosfa i ddangos e-lyfrau i staff academaidd fel rhan o’r digwyddiad ‘Adeiladu Gallu’ (Building Capacity), a drefnwyd gan y Tîm E-wasanaethau a Chyfathrebu ar 6 Rhagfyr 2010. Roeddem hefyd am i staff ddweud wrthym sut gallai teclynnau darllen e-lyfrau wella ansawdd addysgu a dysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth, a beth fyddai’r anfanteision posibl. Dyma ddetholiad o’r sylwadau a ddaeth i law:
- “Fe allwn ei ddefnyddio i ddosbarthu aseiniadau, fel blackboard, ond yn uniongyrchol i’r darllenwyr”.
- “Gallai weithredu at rhyw ddiben fel dyfais mwy cludadwy na gliniadur, ond â batri sy’n para’n hirach”.
- “Fe allwn ei ddefnyddio ar awyren neu ar y trên”.
- “Bydd yn lleihau’r llwyth sydd yn fy mag”.
- “Dwi ddim wedi fy argyhoeddi y gall teclynnau darllen e-lyfrau [wella ansawdd addysgu a dysgu], ond fe all e-lyfrau”.
- “I fi, mae cael dyfais ag iddo un diben yn unig yn rhy gyfyng”.
- “Mae maint bach y sgrin, y ffaith nad yw’n sgrin lliw, a’r allweddell yn gyfyngiadau”.
- “Rwy’n dymuno gweld mwy o ddeunyddiau ar gyfer teclynnau darllen e-lyfrau neu ddeunyddiau electronig ar gael…fel academydd mae’n bwysig bod modd rhyngweithio e.e. anodi, clipio, nodi tudalennau ac amlygu”.
No comments:
Post a Comment