Thursday 14 April 2011

Mae 'Croeso i’ch Llyfrgell 2010' yn ennill gwobr


Ar gyfer Medi 2010 aeth y Gwasanaeth Gwybodaeth ati i ailgynllunio trefniadau’r llyfrgell i ymsefydlu israddedigion. Roeddem am sicrhau bod ymweliad cyntaf y myfyrwyr â’r llyfrgell yn addysgiadol, ond hefyd yn ddifyr ac yn bleserus, felly aethom ati i ailystyried pob elfen o’r broses ymsefydlu: lleoliad, cynnwys, marchnata, amserlenni, technolegau, hyd yn oed y seddi: - sef y rheswm am y bagiau ffa enwog! O ganlyniad dyfarnwyd ‘cymeradwyaeth Uchel’ i’r llyfrgell yng Ngwobrau Arloesedd Marchnata Cymru (categori Addysg Uwch) am ein sesiynau 'Croeso i’ch Llyfrgell 2010', a gynhaliwyd ar 27 - 30 Medi, rhwng 10 y bore a 5 y prynhawn bob dydd.



Dywedodd y beirniad:
"ymgyrch ardderchog – mae’n amlwg bod yr holl elfennau wedi cael eu hystyried yn ofalus, ac fe sefydlwyd strategaeth ar sail y gynulleidfa darged a’u hanghenion, a dulliau da o fesur er mwyn asesu llwyddiant yr ymdrech. Gweithredwyd y syniad o newid canfyddiad ymwelwyr am y llyfrgell mewn modd effeithiol, ac mae’n amlwg bod hyn wedi cael ei werthfawrogi a’i fwynhau. Roedd defnyddio’r bagiau ffa i newid canfyddiad y gynulleidfa am y gwasanaeth, ac i greu argraff yn ystod y broses ymsefydlu GG, yn hynod effeithiol. Roedd defnyddio’r ffilm a grëwyd yn arbennig ar gyfer y digwyddiad hwn hefyd yn effeithiol... gellid ailadrodd y ffilm ar draws y sector i ddangos arferion ‘gorau’."
Mae ein tlws yn ymuno â’r un a enillwyd y llynedd, ac fe fydd y ddau yn cael eu caboli’n rheolaidd.



Rhai o’r staff a fu wrthi’n cynllunio’r sesiwn ymsefydlu, o’r chwith i’r dde: Elgan Davies, Sahm Nikoi, Lillian Stevenson (yn dal y wobr!), Anita Saycell, Karl Drinkwater.


Hwn oedd yr ystafell storio cyn symud y bagiau ffa i Lawr F


Cyflwyniad ar waith

I gloi, dyma ddetholiad o ddyfyniadau o’r ffurflenni adborth myfyrwyr a ddefnyddiwyd yn y sesiwn ymsefydlu.


"Roeddwn yn hoffi’r bagiau ffa yn fawr iawn. Roedd y fideo yn ddifyr, ac yn newid braf, anffurfiol"

"Pleserus am ei fod yn fyr ac yn gryno"

"Fe wnes i fwynhau’r awyrgylch pleserus ac agwedd gyfeillgar y staff"

"Agwedd hyfryd iawn tuag at y myfyrwyr. Sesiwn fer, gryno ac eglur yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol. Roedd cael grwpiau bach o wrandawyr yn ei wneud yn haws dygymod â’r holl wybodaeth"

"Roedd y bagiau ffa yn anhygoel"

"Rwy’n hoffi’r fideos a’r sleidiau, llawer gwell na siarad a darllen o sgrîn. Addysgiadol iawn, trafodwyd popeth sydd angen i ni ei wybod mwy neu lai”

"Dwi’n mynd i ddefnyddio bagiau ffa i ddarllen ac ymlacio o hyn ymlaen”

"Mae’r bagiau ffa yn gyfforddus iawn, ac mae’n ei wneud yn haws i siarad â phobl."

"Ymlacio ar y bagiau ffa, cerddoriaeth, agwedd gyfeillgar, ddim yn rhy hir."

"Mae’r bagiau ffa yn syniad gwych"

"Mae’r llyfrgell i’w weld yn le trefnus a dymunol i fod ynddo, ac yn eithaf blaengar”.

"Rhyngweithiol, cymysgedd dda o elfennau gweledol a darlithoedd”

"Roedd y sesiwn yn rhoi sylw i bopeth sydd angen i chi wybod, mewn modd ymlaciedig a chyfeillgar. Mae’r staff yn barod iawn i helpu."

"Sesiwn wedi’i rhedeg mewn ffordd gyfeillgar ac anffurfiol, cyfleoedd i gael cysylltiad â’r cyhoedd, gan roi’r profiad angenrheidiol i fyfyrwyr i ddefnyddio’r llyfrgell"

"Fe ddylid prynu bagiau ffa i greu ardal ddarllen ymlaciedig.”

"Roedd yr hiwmor a’r cyflwyniad yn ei wneud yn haws i’w ddilyn. Esboniad manwl iawn (yn y ffilm) o gwestiynau cyffredin”

"Cadwch y bagiau ffa"

"Llawer o wybodaeth ddefnyddiol wedi’i gyfathrebu mewn sesiwn ymlaciedig. Dim gormod o wybodaeth. Rwy’n hoffi’r pwyslais ar y ffynonellau o gymorth pellach."

"Wrth fy modd â’r sesiwn”

"Mae’r bagiau ffa yn wych."

"Rwy’n meddwl bod staff y gwasanaethau gwybodaeth yn gymwynasgar iawn – maent yn barod iawn i ddarparu gwybodaeth. Mae nhw’n wych. Daliwch ati."

No comments: