Thursday 15 April 2010

Llyfrgell Hugh Owen - 'chwart i botel peint'



 
Fel y gwyddoch mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn gwneud arolwg o’r defnydd a wneir o gasgliadau cyfredol o gyfnodolion. Mae staff a myfyrwyr yn gwneud defnydd mwyfwy o adnoddau electronig o’i gymharu â chyfnodolion wedi’u hargraffu ac mae’r galwadau ar ofod yn Llyfrgell Hugh Owen yn cynyddu wrth iddi ddechrau darparu gwasanaeth i’r adrannau sy’n cael eu symud i Gampws Penglais.

Oherwydd hyn y mae angen cynnal arolwg critigol o’r casgliadau llyfrgell presennol ac i’r perwyl hwn rydym wedi nodi’r canlynol:

  • Teitlau wedi’u hargraffu a ddyblygir ar fwy nag un safle – bydd un copi yn cael ei dynnu’n ôl o dan y cynllun UKRR.
  • Bydd teitlau sydd ar gael yn electronig ar JSTOR yn cael eu tynnu’n ôl o dan y cynllun UKRR, bydd Cam 1 yn ystyried teitlau yn y gwyddorau’n unig. Gweler y rhestr o deitlau cyfnodolion y Gwyddorau.
  • Mae angen penderfyniadau am y meini prawf i’w defnyddio wrth greu Casgliad Gweithredol a Chasgliad Archif.
Byddwn yn trafod hyn ym Mhwyllgor Defnyddwyr y Gwasnaaethau Gwybodaeth ar Ebrill 28ain ac rydym yn barod iawn i barhau i drafod ag Adrannau unigol. Cysylltwch â’ch Llyfrgellydd Pwnc os hoffech drefnu cyfarfod.

[Post gan Lillian Stevenson, Rheolwr Gwasanaethau Academaidd]

No comments: