Friday 6 August 2010

Dwy sesiwn hyfforddi newydd



Mae JISC Digital Media, drwy gydweithredu â Virtual Training Suite (VTS) wedi cyflwyno dwy sesiwn hyfforddi newydd ar y we, sef “Internet for Audio Resources” ac “Internet for Video and
Moving Images
”. Mae’r sesiynau hyn ar gael am ddim, a’i nod yw helpu staff a myfyrwyr yn y sector addysg i ddod o hyd i ddeunydd sain a fideo i’w ddefnyddio wrth ddysgu.



Dywedodd Dave Kilbey, Cydlynydd Hyfforddi JISC Digital Media, "Mae’r sesiynau hyfforddi yn canolbwyntio ar ddod o hyd i adnoddau nad ydynt o dan hawlfraint, sydd ar gael yn rhad ac am ddim, gan roi modd i ddefnyddwyr gael gafael ar amrywiaeth helaeth o adnoddau sain a fideo ar y we, yn gyflym a diffwdan."

Mae’r ddwy sesiwn hyfforddi hyn yn dod yn sgil lansiad sesiwn ar chwilio am ddelweddau.

No comments: