Wednesday, 13 March 2013

Cwrdd â'ch Llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd

Dyma gyfres o ddarnau yn cyflwyno aelodau o Dîm y Gwasanaethau Academaidd.

Amy Staniforth
Tanzania

Fy enw i yw Amy Staniforth a des i i faes llyfrgelloedd ac archifau drwy’r byd academaidd. Ar ôl gwneud gradd israddedig mewn Astudiaethau Americanaidd a Chanadaidd ym Mhrifysgol Birmingham – gyda blwyddyn ym Mhrifysgol California Santa Barbara (!) – ac MA mewn Llenyddiaeth a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Nevada, Reno (sef y lle cyntaf i gynnig y rhaglen MA) gwnes fy ngradd PhD mewn Astudiaethau Affricanaidd nôl ym Mirmingham. Mae testunau ac amgylcheddau o bob math bob amser wrth galon fy niddordebau – o lenyddiaeth dditectif wedi’i ysbrydoli’n lleol i arddangosfeydd mewn amgueddfeydd ac adroddiadau’r National Geographic ynghylch darganfod hynafiaid dynol yn nwyrain Affrica – ac rwyf wrth fy modd yn helpu pobl i weld y deunydd ffynhonnell sydd o’u cwmpas.

Wednesday, 16 January 2013

Llên-ladrad yn erbyn Arfer Academaidd Da


A oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â beth yw llên-ladrad? A hoffech gael gwybod mwy am arferion academaidd da wrth wneud nodiadau a chyfeirnodau? Mae’r adnodd addysgu hwn yn trafod y testunau hyn a gallwch ei ddefnyddio ar eich cyflymder eich hun. Cyfeiriwch ato ar bob cyfrif, pryd bynnag yr hoffech wneud hynny.

Os oes gennych unrhyw sylwadau ebostiwch kkd@aber.ac.uk os gwelwch yn dda.

Wednesday, 9 January 2013

Adnoddau ar gyfer Cyrsiau: Bomb Sight




Mae Bomb Sight yn wefan sy’n trawsnewid cofnodion a oedd ond ar gael yn flaenorol yn yr Archifau Cenedlaethol  mewn i  fformat rhyngweithiol sy’n ehangu mynediad i’r wybodaeth hanesyddol  bwysig hon yn sylweddol. Yn flaenorol roedd y mapiau cyfrifiad hyn o fomiau a syrthiodd rhwng 7/10/1940 a 6/6/1941 ond ar gael yn Ystafell Ddarllen yr Archifau Cenedlaethol.

Mae’r wefan yn cyflwyno map sy’n nodi lleoliadau bomiau penodol, ac yn rhoi gwybodaeth am y math o fom a’r lleoliad lle disgynnodd.


 Mae Bomb Sight gan Brifysgol Portsmouth wedi ei drwyddedu o dan  
 Creative Commons Attribution-Non Commercial-ShareAlike 3.0 Unported License.

Tuesday, 11 December 2012

Mwynhewch treialu deunydd academaidd ar-lein

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn trefnu treialon am ddim gyda chyhoeddwyr academaidd o bwys fel bo staff a myfyrwyr yn gallu cael mynediad dros dro i’w casgliadau o e-lyfrau, e-gyfnodolion a chronfeydd data ar-lein: http://www.aber.ac.uk/cy/is/elecinfo/trials/

Mae’r cyhoeddwyr hefyd yn gadael gwybod i ni pan ydynt yn caniatáu mynediad at ddibenion hyrwyddo i’r cynnwys ar-lein.

Oes yna unrhyw gynnwys ar-lein y carech ei dreialu?
Rhowch wybod i ni ar acastaff@aber.ac.uk
Cynigir mynediad ar draws y campws yn aml.

Os ydych wedi edrych ar gynnwys unrhyw gynnwys ar-lein rydym wedi ei gynnig yn ddiweddar, fe fyddem yn gwerthfawrogi eich adborth parthed gwerth y deunydd i’ch dysgu, addysgu a’ch ymchwil. Bydd yr adborth o gymorth i ni ystyried tanysgrifio neu brynu’r adnodd yn y dyfodol.

Thursday, 29 November 2012

Sesiynau galw heibio gyda llyfrgellwyr pwnc


"Roeddwn i’n meddwl fod Primo’n dda i ddim, tan i mi sylweddoli mai fi oedd yn ei ddefnyddio’n anghywir..."

Eleni mae’r llyfrgellwyr pwnc wedi bod yn cynnal sesiynau galw heibio ac yn dod â chymorth gyda sgiliau gwybodaeth allan o’r llyfrgell ac i mewn i’r adrannau. Cynhelir y sesiynau hyn yn rheolaidd ac mae modd i chi ddod draw gydag unrhyw gwestiwn am adnoddau’r llyfrgell, am gynnal chwiliadau am lenyddiaeth, ac am gyfeirnodi a defnyddio Primo ac ati. Nid oes angen archebu lle, dim ond galw heibio! Cynhelir y sesiynau’n wythnosol tan ddiwedd y tymor oni nodir unrhywbeth yn wahanol, ac mae rhai newydd ar gael, felly tarwch olwg ar y tabl isod.