Thursday, 23 February 2017

Dolenni i ddogfennau digidol i gael eu hychwanegu at Restrau Darllen Aspire

O ddydd Mawrth 28 Chwefror, bydd rhestrau darllen sydd ag erthyglau neu benodau ynddynt sydd angen eu digideiddio yn cael eu prosesu mewn ffordd newydd i symleiddio’r gwasanaeth i fyfyrwyr.
Mae darlleniadau sydd wedi’u digideiddio e.e. penodau llyfrau neu erthyglau o gyfnodolion ar gyfer seminarau ac ati wedi cael eu hadneuo ar hyn o bryd mewn ffolder yn eich modiwl Blackboard o'r enw Dogfennau wedi’u Digideiddio.

Myfyrwyr
O 2017-2018 gallwch glicio drwy i'r dogfennau wedi’u digideiddio o'r eitemau cyfatebol yn y Rhestr Darllen Aspire.
  • Darganfyddwch y Rhestr Darllen Aspire yn y ddewislen chwith o'ch modiwl Blackboard
  • Efallai y bydd angen i chi nodi eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair Aber i gael mynediad at y ddogfen gyntaf rydych chi'n agor
Staff
Gyda’r broses newydd, bydd dolenni i erthyglau a phenodau wedi’u digideiddio yn cael eu gludo’n uniongyrchol i’r eitemau cyfatebol yn y rhestr ddarllen Aspire gan staff y llyfrgell, a fydd wedyn yn ailgyhoeddi’r rhestr. Wedyn, pan fydd myfyriwr yn clicio ar yr erthygl neu’r bennod yn y rhestr ddarllen Aspire yn Blackboard, byddant yn clicio’n uniongyrchol i’r ddogfen ddigidol.

Proses dreigl fydd hon. Os ydych chi’n cyhoeddi rhestr ddarllen newydd, neu’n ailgyhoeddi rhestr nad oes unrhyw beth arni wedi cael ei digideiddio ar gyfer y flwyddyn academaidd hon, bydd yn cael y driniaeth newydd. Os ydych chi’n ailgyhoeddi eich rhestr i gael mwy o ddogfennau wedi’u digideiddio ar gyfer modiwl sy’n rhedeg ar hyn o bryd, bydd staff y llyfrgell yn ychwanegu’r darlleniadau newydd i’r ffolder Dogfennau wedi’u Digideiddio bresennol yn y modiwl Blackboard.

Bydd angen i gydlynwyr y modiwlau gadw’r newid hwn mewn cof wrth ddiweddaru rhestrau Aspire ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd, yn arbennig os ydynt wedi ychwanegu nodiadau i fyfyrwyr yn y rhestrau a/neu yn Blackboard yn cyfeirio’r myfyrwyr at y ffolder Dogfennau wedi’u Digideiddio. Dilynwch y cyfarwyddiadau hyn i ychwanegu rhagor o erthyglau neu benodau i restrau Aspire ar gyfer eu digideiddio.


Cysylltwch â’r llyfrgellydd pwnc neu ag acastaff@aber.ac.uk 01970621896 os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech arddangosiad byr.

Thursday, 16 February 2017

Adnodd y Mis; Box of Broadcasts

Mae Box of Broadcasts yn rhoi mynediad ar alw, rhad ac am ddim i dros filiwn o raglenni teledu a radio at ddibenion dysgu, ymchwilio ac addysgu.



Pam mae’r adnodd yn ddefnyddiol i fyfyrwyr;

  • Mae Box of Broadcasts yn rhoi mynediad i raglenni teledu a radio a ddarlledwyd yn ddiweddar a rhai hŷn a archifwyd sydd ar gael i’w recordio ac i edrych arnynt ar alw.
  • Mae rhaglenni ar alw Box of Broadcasts bellach ar gael i edrych arnynt yn unrhyw le ar nifer o lwyfannau – mae’r dyfeisiau sy’n cydweddu’n cynnwys bwrdd gwaith, iOS, Android a Windows Mobile.
  • Gellir gwylio a recordio rhaglenni o dros 60 o sianeli teledu, radio ac ieithoedd tramor Freeview – gan gynnwys BBC, ITV, Channel 4, Channel 5, S4C, Sky News a BBC Radio Cymru.
Ewch i Box of Broadcasts ar: https://learningonscreen.ac.uk/ondemand/listings
Os ydych chi’n ceisio cael mynediad i Box of Broadcasts oddi ar y campws, cysylltwch drwy VPN y Brifysgol gyntaf:

Gwyliwch y tiwtorial fideo hwn am sut i ddefnyddio Box of Broadcasts:

Cysylltwch ag acastaff@aber.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu arddangosiad.