Mae Box of Broadcasts yn rhoi mynediad ar alw, rhad ac am ddim i dros filiwn o raglenni teledu a radio at ddibenion dysgu, ymchwilio ac addysgu.
Pam mae’r adnodd yn ddefnyddiol i fyfyrwyr;
- Mae Box of Broadcasts yn rhoi mynediad i raglenni teledu a radio a ddarlledwyd yn ddiweddar a rhai hŷn a archifwyd sydd ar gael i’w recordio ac i edrych arnynt ar alw.
- Mae rhaglenni ar alw Box of Broadcasts bellach ar gael i edrych arnynt yn unrhyw le ar nifer o lwyfannau – mae’r dyfeisiau sy’n cydweddu’n cynnwys bwrdd gwaith, iOS, Android a Windows Mobile.
- Gellir gwylio a recordio rhaglenni o dros 60 o sianeli teledu, radio ac ieithoedd tramor Freeview – gan gynnwys BBC, ITV, Channel 4, Channel 5, S4C, Sky News a BBC Radio Cymru.
Os ydych chi’n ceisio cael mynediad i Box of Broadcasts oddi ar y campws, cysylltwch drwy VPN y Brifysgol gyntaf:
Gwyliwch y tiwtorial fideo hwn am sut i ddefnyddio Box of Broadcasts:
Cysylltwch ag acastaff@aber.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu arddangosiad.
No comments:
Post a Comment