Tuesday, 9 February 2016

e-lyfrau: ateb ac achos y rhan fwyaf o'n problemau

Ydych chi wedi gweld e-lyfr ar werth ar Amazon, wedi gofyn i'r llyfrgell ei brynu, ac yna cael gwybod nad oes fersiwn electronig o'r llyfr hwnnw ar gael? Ydych chi'n chwilio am e-lyfr a ddarllenoch ychydig fisoedd yn ôl, ond nid yw'n gweithio mwyach? Mae'n brofiad rhwystredig iawn – a gallaf eich sicrhau ein bod ni yn y Gwasanaethau Gwybodaeth yn rhannu'ch rhwystredigaeth. Ein polisi yw mai e-lyfrau yw'r ffordd ymlaen. Maent yn ein galluogi i gynyddu’r amrywiaeth a nifer y llyfrau sydd ar gael i'n defnyddwyr yn sylweddol, am gost is ac heb effeithio ar ein gofod silffoedd cyfyngedig. Mae llawer o'n defnyddwyr (ond nid pob un o bell ffordd) yn dewis gweithio gydag e-lyfrau yn hytrach na llyfrau print, gan fod modd dod o hyd iddynt yn gyflym a didrafferth, a bod modd dewis o blith cannoedd o filoedd o lyfrau o unrhyw le yn y byd, ar unrhyw adeg. Ond er gwaetha'r manteision amlwg y mae e-lyfrau’n eu cynnig, mae yna lawer o broblemau - ac fe geisiaf grynhoi'r rhain nawr.  

Mae cyhoeddi e-lyfrau yn faes newydd, cymhleth, sy'n newid yn gyson. Rydym yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i e-lyfrau pryd bynnag y gwneir ceisiadau amdanynt, ond weithiau nid yw hynny’n bosib. Gydag e-lyfrau, y cyhoeddwyr sy'n penderfynu ar y pris, y telerau trwyddedu, sut y rheolir yr hawliau digidol, nifer y defnyddwyr cydamserol ac ati, sydd yna’n penderfynu a oes modd i ni brynu'r llyfr ai peidio. Mae'r rhan fwyaf o gyhoeddwyr yn darparu eu llyfrau trwy safleoedd penodol megis ebrary neu Dawsonera (sef y safleoedd sy'n cynnwys y rhan fwyaf o'n e-lyfrau ni) a gall llyfrgelloedd eu prynu ar sail sefydliad-cyfan; ond nid yw pob cyhoeddwr yn gwneud hyn. Mae Human Kinetics yn un cyhoeddwr o'r fath. Nid yw’n gwerthu i sefydliadau, dim ond i ddefnyddwyr unigol. Mae’r rheswm am hyn yn syml: arian. Gall wneud mwy o arian drwy werthu ugain copi o'r e-lyfr i ugain myfyriwr unigol na thrwy werthu un copi i lyfrgell y gallai’r ugain myfyriwr hynny ei rannu. 

Rydym wedi ysyried gwahanol ffyrdd o hysbysu saff a myfyrwyr am gyfyngiadau o’r fath, megis cadw rhestr o gyhoeddwyr sydd ddim yn gwerthu e-lyfrau i sefydliadau, ond nid yw mor syml â hynny. Mae amodau trwyddedu e-lyfrau yn newid yn gyson, ac mae'n beth anodd iawn i’w reoli. Nid yw Springer, er enghraifft, yn gwerthu llyfrau unigol ar sail sefydliad-cyfan, ond maent yn gwerthu pecynnau o e-lyfrau i lyfrgelloedd. Mae Gwasg Prifysgol Rhydychen yn enghraifft gymhleth arall; yn wreiddiol roedd ei chyhoeddiadau ar gael trwy Dawsonera, ond yna dwy flynedd yn ôl creodd y Wasg ei llwyfan ei hun o'r enw 'Oxford Scholarship Online' (OSO). Prynasom un e-lyfr ar OSO; nawr mae Gwasg Prifysgol Rhydychen wedi tynnu llawer o'r deunydd o'r llwyfan hwnnw, gan roi'r holl lyfrau cyfreithiol ar lwyfan newydd arall (o'r enw LawTrove), a dim ond unigolion all ei ddefnyddio. Maent yn gwerthu e-lyfrau eraill, unwaith eto dim ond i unigolion, trwy Amazon a gwerthwyr trydydd parti eraill. Mae Pearson, ar y llaw arall, yn cynnig eu cyhoeddiadau i lyfrgelloedd trwy Dawsonera, ond bob tua chwe mis maent yn newid eu telerau trwyddedu i'w gwneud yn llai ffafriol (lleihau nifer y troeon y caniateir defnyddio llyfr mewn blwyddyn, lleihau nifer y defnyddwyr cydamserol, tynnu'r gallu i lawrlwytho llyfrau i’w darllen all-lein, cynyddu'r pris...). Nid dim ond Dawsonera sy’n tynnu deunydd o'i safle; mae'r llyfrau sydd ar gael i ni trwy ein tanysgrifiad ebrary yn newid yn gyson, gyda channoedd o lyfrau newydd yn cael eu hychwanegu, a dwsinau o lyfrau'n cael eu tynnu o'r casgliad bob mis. Mae graddfa'r newidiadau yn golygu bod hyn yn anodd ei reoli, ond rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar ffordd o dynnu’r llyfrau a ddileeir o'r catalog ac archebu copïau newydd yn eu lle os oes angen.     

Mae’r amrywiaeth o wahanol lwyfannau, anghysondeb y telerau trwyddedu o gyhoeddwr i gyhoeddwr, a'r ffaith bod y telerau hyn yn newid yn gyson, oll yn peri rhwystredigaeth i'n defnyddwyr. Mae yna derfynau i'r hyn y gallwn ei wneud i newid y sefyllfa, ond rydym yn gwneud rhywfaint o gynnydd: Mae llyfrgelloedd Addysg Uwch, a'r Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth (JISC), yn trafod gyda chyhoeddwyr en masse i geisio sicrhau telerau a phrisiau ffafriol lle bo modd - ond mae hyn yn tueddi i fod ar gyfer pecynnau aml-deitl gyda’r cyhoeddwyr mawr. Hefyd, ysgrifennodd JISC at Pearson yn ddiweddar ar ran yr holl sefydliadau Addysg Uwch i fynegi ein hanfodlonrwydd cyffredinol ynglyn â’r ffordd y mae'r cwmni yn gynyddol yn llesteirio ein hymdrechion i gynnig gwasanaeth da i'n myfyrwyr. Nid yw Pearson wedi ymateb eto, ond roedd yna gryn dipyn o schadenfreude yn y llyfrgell ychydig wythnosau yn ôl pan blymiodd pris cyfranddaliadau'r cwmni, gan eu gorfodi i gyhoeddi rhybudd elw.   

Rwy'n hyderus mai e-lyfrau fydd y ffordd orau i lyfrgelloedd academaidd ddarparu deunydd i'w defnyddwyr yn y dyfodol, ond nes bod y mynediad iddynt yn gyson, yn ddibynadwy, ac yn gost-effeithiol, mae e-lyfrau hefyd yn ffynhonnell o gryn rwystredigaeth i staff a myfyrwyr. Rwy'n deall y rhwystredigaeth honno, ond gallaf eich sicrhau ein bod yn teimlo'r un mor gryf am y peth ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i reoli'r sefyllfa anodd hon, ac i ddarparu'r adnoddau sydd eu hangen ar ein defnyddwyr.  

Rwy'n gobeithio bod hyn wedi mynd i’r afael â rhai o'ch prif bryderon ynglŷn ag e-lyfrau, ac wedi esbonio'r sefyllfa bresennol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, neu awgrymiadau ynghylch sut i wella'r gwasanaeth hwn, mae croeso i chi gysylltu â ni ar ejournals@aber.ac.uk  .


No comments: