Lloyd ydw i, a fi
yw'r Llyfrgellydd Pwnc newydd i'r Ysgol Gelf;
y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd; Hanes a Hanes Cymru, a'r Gyfraith a
Throseddeg. Ymunais â'r Gwasanaethau
Gwybodaeth ar ôl gorffen fy PhD mewn Casgliadau Llyfrgellol Digidol a Hanes
Celf gyda'r Ysgol Gelf ac Adran Ymchwil Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Hanes Celf ym Mhrifysgol Nottingham oedd fy
ngradd gyntaf, ac wedyn fe ges i MSc mewn Rheoli Gwybodaeth a Llyfrgelloedd o
Brifysgol Gorllewin Lloegr. Yn y
cyfamser, rwy wedi gweithio mewn sawl gwahanol fath o lyfrgell, gan gynnwys
Llyfrgell y Sefydliad Uwch Astudiaethau Cyfreithiol ym Mhrifysgol Llundain;
Llyfrgell Genedlaethol Cymru; llyfrgell Sefydliad Celf Courtauld; a changhennau
llyfrgelloedd cyhoeddus Casnewydd.
Efallai y daeth
fy awydd i roi trefn ar anhrefn o'm casgliad anhylaw a rhy fawr o
recordiau. Dechreuais gasglu pan roddodd
fy mam-gu'r record 7” Don’t Believe the Hype gan Public Enemy imi pan
oeddwn tua 12 oed. Er fy mod i'n hoffi
meddwl bod fy Nana yn edmygwr brwd o rap gwleidyddol arfordir dwyrain America mewn gwirionedd dim ond stoc oedd heb ei gwerthu
oedd hi o'i siop gerddoriaeth, sef siop fendigedig Falcon Music yn
Llanelli. Roeddwn i'n gweithio yn y
siop pan oeddwn ychydig yn hŷn; roedd y siop yn gwerthu offerynnau yn hytrach
na recordiau erbyn hynny. Gweithio yn
siop gitarau'ch mam-gu yw'r swydd Sadwrn fwyaf cwl y gallwch ei chael.
Am ragor o
wybodaeth am bwysigrwydd cynnal casgliad mawr o recordiau rhyfedd ac er mwyn
ymarfer eich sgiliau gwybodaeth/llythrennedd digidol, chwiliwch am Wax Trash and Vinyl Treasures: Record Collecting as a Social Practice gan Roy Shuker,
sydd ar gael yn Llyfrgell Hugh Owen ar fformatau papur ac electronig.
Er mwyn dysgu sut
mae rhoi hypergyswllt yn uniongyrchol i gofnod unigol yn Primo, gweler y
Cwestiwn Cyffredin hwn.