Dyma beth oedd ganddi i'w ddweud : "Mae’r 3 diwrnod yma wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi ac wedi cryfhau fy nealltwriaeth o’r hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn y Gwasanaethau Gwybodaeth. Roedd fy niwrnod cyntaf yn canolbwyntio ar Wasanaethau Cwsmeriaid. Cefais fy nghyflwyno i ‘fapio’ gwasanaethau cwsmeriaid sy'n pwysleisio ar rôl y cwsmer mewn prosesau dydd-i-ddydd. Roedd gweithio gyda'r Tîm Benthyca yn brofiad mwy ymarferol - roeddwn yn gallu gweld prosesau megis digideiddio, cyflenwi dogfennau a chyfarfod â chwsmeriaid wrth y ddesg ymholiadau. Roedd gweithio gyda llyfrgellwyr pwnc ar y trydydd diwrnod yn hynod ddiddorol gan fy mod yn medru gweld sut mae staff yn cysylltu â'r gwahanol adrannau. Roedd y casgliadau arbennig hefyd yn ddiddorol a chefais gyfle i eistedd i mewn ar gyfarfod ynglŷn â chynllunio arddangosfa arfaethedig ynglŷn â myfyrwyr o Gymru a aeth i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a oedd yn arbennig o ddiddorol i mi fel myfyriwr Hanes.
Wedi treulio peth amser yma rwyf wedi gweld sut mae pob aelod o’r staff yn gyfrifol am lu o dasgau gwahanol felly nid yw’r gwaith byth yn ddiflas. Mae'r profiad yn wir wedi cryfhau fy nealltwriaeth o’r Gwasanaethau Gwybodaeth ac ennyn diddordeb mewn gyrfa ym maes llyfrgellyddiaeth neu debyg . Roedd yn wych i brofi’r pethau yma ac mae'r staff i gyd wedi bod yn gefnogol ac yn gyfeillgar iawn ".
Sarah Gwenlan, Laura Nichols a Joy Cadwallader yn Hugh Owen Library, Campws Penglais
No comments:
Post a Comment