Tuesday 18 March 2014

Dau Farnwr yn ymweld â Llyfrgell Thomas Parry yn yr un wythnos

Post gan Lillian Stevenson, Rheolwr Gwasanaethau Academaidd a Llyfrgellydd y Gyfraith.


 Roedd hi'n bleser gwirioneddol gennym groesawu'r Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd,  Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr a'i Anrhydedd y Barnwr D. Elgan Edwards DL, Cofiadur Caer, i Lyfrgell Thomas Parry, cartref newydd llyfrgell y Gyfraith a Throseddeg. Cafwyd cyfle i drafod rôl gwybodaeth gyfreithiol a llyfrgellwyr y gyfraith o fewn proffesiwn y gyfraith ac addysg gyfreithiol yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Cafodd y myfyrwyr a oedd yn astudio yn y llyfrgell eu croesholi, ond llwyddasant i ddod i ben â'r her!





Afraid dweud mewn unrhyw lyfrgell, erbyn hyn, "NID yr hyn a welwch yw'r hyn a gewch" gan fod llyfrgelloedd yn cynnwys e-adnoddau yn ogystal â chasgliadau argraffedig, ac yn y storfeydd y mae llyfrau hŷn yn cael eu cadw gan amlaf. Mae ffynonellau deddfwriaeth bresennol Cymru yn absennol o'n silffoedd gan eu bod yn  cael eu darparu ar ffurf electronig bron yn ddieithriad. Ond roedd un o'm gwesteion uchel eu bri yn syfrdan o weld copïau o The Digest (heb ei ddiweddaru) ar y silffoedd. Sawl Llyfrgell y Gyfraith sy'n dal i gadw hwnnw, tybed, neu a yw wedi'i ddisodli gan adnodd digidol mwy fforddiadwy?

Ymwelodd y Barnwyr ag Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth er mwyn cwrdd â staff a myfyrwyr ac i roi darlithoedd. Traddododd yr Arglwydd Brif Ustus ddarlith flynyddol Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig, o'r enw “Law in the Polity of Wales”, un o'r digwyddiadau cyntaf iddo ei annerch ers iddo gael ei benodi i'r swydd. Siaradodd ei Anrhydedd y Barnwr D. Elgan Edwards â'r myfyrwyr yn sôn am yrfaoedd yn y gyfraith, “Qualifying as a Lawyer : Is it all worthwhile?

Fel rheol, nid peth i'w fwynhau mo gweithio'n hwyr ar nos Wener, a dyma fi'n gofyn imi fy hunan - “Cymhwyso fel Llyfrgellydd y Gyfraith : A yw'n werth ei wneud?” *** Ac wrth gwrs ei fod e. Hoffwn ddiolch i'm cydweithwyr yn Adran y Gyfraith a Throseddeg am y gwerth maen nhw'n ei roi ar eu llyfrgell yn y brifysgol ac ar staff y llyfrgelloedd.

*** Rwy'n hapus i siarad â rhywun sydd â diddordeb mewn gyrfa fel Llyfrgellydd y Gyfraith / Gweithiwr Proffesiynol ym maes Gwybodaeth GyfreithiolCysylltwch â mi a/neu'r corff proffesiynol - Cymdeithas Llyfrgellwyr Cyfraith Prydain ac Iwerddon.

No comments: