Cliw: Nid yw’n ymwneud â stampio llyfrau fel rheol.
I gael yr ateb, darllenwch y gyfres newydd hon o erthyglau blog! Rydym eisoes wedi cael cyfres 'cwrdd â’ch llyfrgellydd', ac fe fyddwn yn parhau i ysgrifennu’r rheiny. Enw’r gyfres hon yw 'diwrnod ym mywyd llyfrgellydd' a bydd yn cynnig cipolwg o’r gwaith y mae rhai o’r llyfrgellwyr yn ei wneud ar ddiwrnod nodweddiadol. Byddwn yn dewis ambell ddigwyddiad ar gyfer pob dydd.
Fe wna i ddechrau’r gyfres: Karl Drinkwater ydw i, a fi yw’r llyfrgellydd seicoleg.
9yb: Tasgau busnes, cyfle i ymateb i e-byst pwysig. Ymhlith yr eitemau di-rifedi yn fy mewnflwch yr oedd e-bost hyfryd yn diolch i mi am sesiwn a gynhaliais yr wythnos ddiwethaf ar gyfer myfyrwyr y gyfraith a seicoleg y drydedd flwyddyn sy’n gweithio ar eu traethodau estynedig. Mwynheais y sesiwn honno oherwydd cefais gyfle i ddysgu gyda llyfrgellydd arall, ac roedd y grŵp yn fach ac yn gyfeillgar. Rydym wedi cynyddu ein darpariaeth dysgu eleni – ers mis Medi rwyf wedi dysgu dros 1,000 o fyfyrwyr o nifer o adrannau, heb sôn am yr holl fyfyrwyr a daeth i’r sesiwn gynefino! Mae llythrennedd gwybodaeth yn rhan fawr o’r hyn yr ydym yn ei wneud - dysgu pobl sut i ganfod, gwerthuso a defnyddio gwybodaeth yn foesegol. Mae gweithio gydag adnoddau a chysylltu ag adrannau yn elfennau eraill o waith llyfrgellydd pwnc.
9.10yb: Roeddwn i ar y rota i ateb yr ymholiadau sy’n cael eu hanfon i gyfeiriad e-bost y tîm, sy’n galluogi staff a myfyrwyr i gysylltu â ni ac i ofyn cwestiynau. Bum hefyd yn monitro’r sgwrs 'Gofynnwch i’r Llyfrgellydd'. Rydym yn cadw llygad ar y rhain wrth gyflawni ein dyletswyddau eraill.
10.45yb: Llwyddais i gwblhau ac uwch lwytho fy nghynnig ar gyfer Gwobrau Marchnata Llyfrgelloedd Cymru. Ni enillodd yn 2009, felly croeswch eich bysedd! Seiliwyd y cynnig ar y ffordd rwyf wedi defnyddio Facebook i gynorthwyo myfyrwyr seicoleg (rhoddais gyflwyniad ar y testun hwn yng Nghynhadledd Addysgu a Dysgu Aberystwyth ychydig cyn dechrau’r flwyddyn academaidd hon).
Dyma fi wrth y ddesg ar Lawr F heddiw.
Gwybodaeth yn gollwng o’r cyfeirlyfrau sy’n achosi’r golau disglair yn y cefndir.
Neu ysbryd y llyfrgell: penderfynwch chi.
Gwybodaeth yn gollwng o’r cyfeirlyfrau sy’n achosi’r golau disglair yn y cefndir.
Neu ysbryd y llyfrgell: penderfynwch chi.
2yp: Roedd myfyrwraig angen help i ddod o hyd i ddeunydd ar gyfer ei thraethawd estynedig, felly aethom draw i’r adran seicoleg i ddefnyddio un o’r cyfrifiaduron yno. Roedd ei hymchwil yn canolbwyntio ar achos cyfreithiol enwog a’r sylw a roddwyd iddo mewn gwahanol ffynonellau newyddion. Fe wnaethom chwarae â gwahanol ddyddiadau a ffynonellau yn Infotrac, ond yn bwysicach na hynny, gydag enwau’r dioddefwr (roedd gwahanol bapurau yn defnyddio gwahanol enwau, felly fe wnaethom ganolbwyntio ar y cyfenw yn unig. Drwy gyfyngu ar rychwant y dyddiadau bu modd gwneud hynny heb gael canlyniadau amherthnasol). Yn ogystal â hyn, defnyddiais ffynhonnell newyddion arall, sef Nexis, gan ailadrodd yr un chwiliadau i sicrhau na fyddem yn colli unrhyw beth o’r prif bapurau newydd yr oedd y myfyriwr yn canolbwyntio arnynt. Edrychom ar faterion eraill hefyd, gan gynnwys llunio graff i nodi nifer y geiriau ym mhob erthygl papur newydd dros amser (roedd yr erthyglau’n mynd yn fyrrach ar ôl y sylw cychwynnol, ac erbyn canlyniad yr achos nid oeddent yn llawer mwy na throednodiadau: mae hynny’n adrodd cyfrolau am sut mae’r cyfryngau’n gweithio). Mae ymchwil pawb yn wahanol, ac mae bob amser yn ddiddorol gweld yr amrywiaeth o bynciau y mae myfyrwyr yn eu hymchwilio.
3.30yp: Heddiw, gofynnwyd i mi adolygu erthygl ar gyfer y cyfnodolyn ardderchog Journal of Information Literacy gan fod yr erthygl yn ymdrin â meysydd y mae gen i ddiddordeb ynddynt, sy’n ymwneud â throsiant myfyrwyr i brifysgolion. Cytunais, gan fwrw golwg gyflym dros y canllawiau – byddaf yn eu darllen mewn mwy o fanylder dros y penwythnos. Rwy’n esbonio’r broses adolygu gan gymheiriaid yn un o’m darlithoedd cyflwyniadol ar 'ddeunyddiau academaidd'. Byddai’n briodol, felly, i mi ddilyn fy mhregeth fy hun.
No comments:
Post a Comment